Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Wythnos Gwrth-fwlio

Posted by maxwell90 from Swansea - Published on 14/11/2011 at 15:14
0 comments » - Tagged as Education, Health, People

  • gf
  • gf

English version

Mae Wythnos Gwrth-fwlio yn ôl am yr 8fed mlynedd olynol. Mae'r digwyddiad, gychwynnodd yn 2004, yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o fwlio gyda phobl ifanc trwy ysgolion a llefydd eraill ac yn anelu amlygu'r ffyrdd galla gael ei ddifa.

Cynghrair Gwrth-fwlio ydy'r sefydliad tu ôl i Wythnos Gwrth-fwlio, sydd eleni yn cychwyn ar ddydd Llun 14eg Tachwedd ac yn rhedeg tan yr 18fed. 'Stopia a Meddylia – Gall Geiriau Frifo' ydy'r teitl ar gyfer slogan eleni ac mae'r thema yn canolbwyntio ar fwlio geiriol. Yn Gynhadledd Ieuenctid ABA 2010 cododd y bobl ifanc eu pryderon am faint o iaith negyddol sydd yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion a'r gymuned ehangach.

Felly sut fedri di fod yn rhan o Wythnos Gwrth-fwlio? Mae amryw ffordd gallet helpu. Gofynna i dy ysgol os oes ganddynt fandiau arddwrn glas gwrth-fwlio gallet wisgo i ddangos dy gefnogaeth yn erbyn bwlio. Ymysg y bandiau arddwrn glas yma mae nifer o fandiau aur gallai ennill gwobr arbennig i ti felly cadwa olwg allan.

Gallet hefyd roi rhodd arian i helpu codi ymwybyddiaeth a gwneud gwir wahaniaeth i fywydau'r bobl sydd yn aml yn wynebu'r canlyniadau difrodus o fwlio. Gall wneud hyn drwy ymweld â gwefan Beat Bullying.

Os wyt ti wedi dioddef o fwlio neu yn poeni am rywbeth a ddim yn sicr pwy i siarad gyda nhw, yna mae'r wefan Cybermentors yn rywle lle gallet gael cymorth gwerthfawr. Mae Cybermentors yn ymwneud â phobl ifanc yn helpu ac yn cefnogi ei gilydd ar-lein. Neu gallet siarad gyda rhywun o Meic ar-lein. Meic ydy'r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru. Gall pobl ifanc gael mynediad i'r gwasanaeth trwy'r ffôn, neges testun SMS, neges sydyn ar y we neu e-bost.

Sefydliadau – Bullies Out
Gwefan Caerdydd Yn Erbyn Bwlio
Dolen Berthnasol: Gwefan Swyddogol Beat Bullying

DELWEDDAU: studiostoer; Bob Cotter a Deborah Cardinal

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.