Taith Ceredigion i Catalunya
Yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf fe deithiodd 180 o aelodau o flynyddoedd 9 a 10 i ardal Tossa De Mar yng Nghatalonia, ac yn eu plith roedd yna 38 dewr o Geredigion.
Wedi teithio’n hir trwy Gymru, Lloegr, Ffrainc a dros y ffin i Sbaen, gydag aelodau o Ysgolion Penweddig, Tregaron, Llambed a Dyffryn Teifi yn gwmni ar y bws, daethpwyd o’r diwedd i'r ganolfan ger Tossa, ac yno y gwnaethom aros am bum noson gan fwynhau cyfleusterau’r gwersyll a’r traeth cyfagos.
Ond nid y gwersyll oedd yr unig atyniad, cafwyd diwrnod llawn antur yn Port Aventura, un o brif barciau antur Ewrop, a diwrnod gwlyb a gwyllt ym Mharc Dwr WaterWorld. Buasai taith i Gatalonia ddim yn gyflawn heb ymweld â Barcelona, ac yno cafwyd ymweliadau â'r Nou Camp, cartref y tîm Pêl-droed enwog, Sagrada Familia a’r Castell uwchben y Ddinas. Mentrodd y rhai dewr ar y ‘Cable Cars’ i weld golygfeydd godidog y ddinas. Ac wrth gwrs, i’r merched, cyfle i siopa yn ardal yr harbwr ac ar La Ramblas.
Wythnos fythgofiadwy, gydag atgofion melys am yr Haul a’r gwres (a’r llosgi er gwaethaf yr holl eli haul!), y pwll nofio a’r Cwch Banana, y Pizza a’r Hufen Iâ a’r Morgrug ym mhob man, ond yn bennaf am yr hwyl di-ddiwedd a’r cyfeillion oes newydd sbon. Mae’r lluniau’n dweud y cyfan!
Yn wir, roedd y daith wedi dod i ben cyn pen dim. Roedd y mwyafrif yn siomedig na fyddai’r daith yn gallu parhau yn hirach, ac yn edrych ymlaen at drip arall y flwyddyn nesaf! .
Diolch i bawb a fynychodd y daith ac am ei gwneud yn drip bythgofiadwy.
Diolch hefyd i'r holl staff am eu gwaith wrth gynorthwyo ar y daith hir a blinedig ond llawn sbort!!!

