Syniad NEET Y Groes Goch
Ti'n gwybod y Groes Goch? Y bobl cymorth a meddygaeth sydd yn troi lan mewn mannau trychineb dros y byd? Oeddet ti'n gwybod eu bod nhw hefyd yn gwneud cynlluniau, rhaglenni a gwaith ym Mhrydain? Doeddwn i ddim… efallai fod Prydain bellach yn fan trychineb? Ydy ef?
Dwi'n ysgrifennu hwn am fod y Groes Goch yn lansio cynllun newydd yn De Cymru, mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Caerffili,RCT,Merthyr Tydfil, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.
Maent yn galw'r prosiect yn Gynllun Cyflogaeth Gefnogol. Beth mae hyn yn ei olygu ydy eu bod yn cynnig lleoliad (neu waith mewn geiriau eraill) wedi'i dalu mewn cyfres o sectorau gwaith fel gweinyddiaeth, manwerthu, iechyd a gofal cymdeithasol ac ieuenctid a chymunedol. Byddet yn derbyn hyfforddiant llawn a hyd yn oed cefnogaeth gan Swyddog Ymrwymiad am gyfnod y lleoliad, fel arfer 26 wythnos, chwe mis neu hanner blwyddyn yn dibynnu ar sut rwyt ti'n hoffi mesur amser.
Felly os wyt ti'n 16-17, ddim mewn addysg, cyflogaeth nac hyfforddiant ac eisiau manteisio ar y cyfle yma yna grêt. Mae'r wybodaeth yma mor newydd fel bod y Groes Goch yn postio'r holl gyfleoedd ar eu tudalen swyddi mewn cwpl o ddiwrnodau ond os wyt ti eisiau gwybodaeth nawr yna beth am yrru e-bost iddynt –wales_enquiries@redcross.org.uk
Gwybodaeth – Cyflogaeth a Hyfforddiant
Sefydliadau – Y Groes Goch Brydeinig
Newyddion – Categorïau – Gwaith a Hyfforddiant


