Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Stadiwm Yn Croesawu Sgiliau Cymru

Posted by James539 from Cardiff - Published on 13/07/2010 at 10:15
1 comments » - Tagged as Education, Music, People, Work & Training

English version

Mae Sgiliau Cymru 2010 yn ddigwyddiad sy’n rhoi sylw i nifer o lwybrau gyrfa a sgiliau.

Bydd pobl ifanc ac oedolion yn ennill profiad o rai gyrfaoedd arbennig drwy gyfarfod â chyflogwyr yn uniongyrchol.

Bydd hyn yn fanteisiol i’r rhai fydd yn bresennol oherwydd gallant gael unrhyw gwestiynau anodd am unrhyw ymholiadau a all fod ganddynt wedi eu hateb.

Bydd nifer o stondinau a gweithdai yn y digwyddiad, yn rhoi pytiau am yr hyn y gallai’r swydd ei gynnwys. Mae’r digwyddiad yn rhan o gynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau mwy o amrywiaeth o sgiliau yng Nghymru, a hefyd i gynyddu llwyddiant busnesau.

Beth? Pryd? Ble?

Mae Sgiliau Cymru yn ddigwyddiad tri diwrnod a gynhelir o ddydd Iau 16 i ddydd Sadwrn 18 Medi yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Bydd dros 100 o arddangoswyr ar draws chwech o gylchfaoedd gwahanol: yr amgylchedd adeiledig, celfyddydau diwylliannol a chreadigol, peirianneg, TG a gweinyddiaeth busnes, gwasanaethau proffesiynol a chroeso a chyngor, addysg a hyfforddiant.

Ar y dydd Iau a dydd Gwener anelir y digwyddiad at grwpiau wedi’u trefnu a fydd yn  mynychu ar amserau dynodedig, a fydd yn rhoi digon o amser i bob aelod roi cynnig ar nodweddion rhyngweithiol, a gynhelir o 9.30am – 3pm.

Bydd y dydd Sadwrn ar gyfer grwpiau llai, a llai ffurfiol, a theuluoedd ac unigolion, yn ogystal â’r grwpiau wedi’u trefnu a gynhelir o 10am tan 4pm.

Bydd y digwyddiad yn un ymarferol iawn gyda llawer i’w wneud. P’run ai fyddi di’n cael colur wrth ymchwilio i yrfa mewn therapi harddwch, neu yn helpu i drwsio car wrth ddysgu am fecaneg moduron, bydd yna rywbeth i bawb.

Pan fyddi di yno, bydd amrywiaeth o berfformiadau, cyflwyniadau a chystadlaethau hefyd, y gellir gweld y rhan fwyaf ohonynt naill ai o’r cam Sgiliau neu’r theatr Sgiliau.

Cystadlaethau

Yn ystod diwrnod olaf Sgiliau Cymru cynhelir Brwydr y Bandiau CLIC (BYB), ac oherwydd y disgwylir i dros 20,000 o bobl ymddangos dros y tri diwrnod bydd cyfran fawr yn bresennol ar gyfer y rownd derfynol.  

Bydd y pump a fydd yn y rownd derfynol yn chwarae set o flaen cynulleidfa o 250 o bobl yn Lolfa’r Llywydd, ac yn cael eu barnu gan banel o arbenigwyr yn y diwydiant. Yna bydd enillydd y rownd derfynol honno yn mynd ar y prif lwyfan Sgiliau ac yn chwarae gig 20 munud o flaen pawb sy’n bresennol ar y diwrnod olaf, yn ogystal ag ennill gwobrau eraill fel wythnos o amser stiwdio a chyfleoedd i chwarae gigiau yn rhai o ddigwyddiadau eraill CLIC.

Ceir cystadleuaeth arall o’r enw Byddwch yn Gyflwynydd. Ar gyfer hon, gall lwytho fideo 60 eiliad ohona ti dy hun yn cyflwyno’r newyddion i wefan Sgiliau Cymru. Dewisir y fideos gorau i fynd yn fyw, a phenderfynir ar ddau enillydd drwy bleidlais gyhoeddus ar-lein. Bydd yr enillydd yn treulio’r digwyddiad yn dysgu sut i fod yn gyflwynydd gyda phrif gwmni cynhyrchu’r cyfryngau, wrth gyfweld pobl a ffilmio’r digwyddiad.

DOLENNAU

Sgiliau Cymru

Brwydr y Bandiau CLIC

Cystadlaethau

DELWEDD: lord_bute

1 CommentPost a comment

CLICtania

CLICtania

Commented 22 months ago - 21st July 2010 - 15:32pm

Edrych ymlaen at Frwydr y Bandiau 2010, dwi wedi bod yn gwrando ar rhai o'r bandiau sydd wedi cystadlu ac mae'n edrych fel y bydd yna lot o dalent ar y llwyfan ym mis Medi. I weld rhestr o'r bandiau sydd wedi ymgeisio hyd yn hyn cliciwch ar y botwm 'byb' ar frig y dudalen hon.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.