Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Prosiect Symudol Yr Youth Express

Posted by Shouttawe Editor from Swansea - Published on 28/04/2010 at 13:24
0 comments » - Tagged as Art, Climate, Comedy, Creative Writing, Culture, Dance, Education, Environment, Fashion, Festivals, Food & Drink, Health, History, Movies, Music, People, School Holiday Activities, Stage, Sport & Leisure, Technology, Topical, Travel, Work & Training, Volunteering, Yn Gymraeg

  • ss

Os ydych yn dod o ardal wledig yn Abertawe yna rydych yn mynd i gael eich plesio.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe a’r Cynulliad Cenedlaethol wedi prynu fan newydd ac wedi rhoi cit newydd diddorol arni i bobl ifanc ei fwynhau.

Mae’r cerbyd yn mynd allan i ymweld â llefydd i gyfarfod â phobl ifanc a hoffai gael rhywle i fynd a chael rhywbeth i’w wneud.

Mae gan yr ‘Youth Express’ hefyd stwff fel XBox (a gemau: DJ / Guitar Hero, Lips a FIFA 2010), a Nintendo Wii, Wii Fit a mwy o gemau i chi a’ch ffrindiau gael hwyl gyda nhw.

Gallwch hefyd ddefnyddio dau gyfrifiadur (Apple MiniMacs) gyda mynediad i’r Rhyngrwyd a Word i ysgrifennu CVs a llythyrau, cyflwyniadau ar gyfer yr ysgol, gwaith cartref neu ar gyfer eich swydd. Os oes gennych ddawn greadigol ar gyfer golygu fideo gallwch gynhyrchu ffilmiau byr a’u postio ar unwaith ar YouTube.

Bydd gan yr ‘Youth Express’ ddau weithiwr ieuenctid (a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd (EAFRD) a Llywodraeth Cynulliad Cymru) wrth law i gefnogi pobl ifanc a chynnig eu cyfarwyddo at gyfleoedd pellach mewn lle diogel a chysurus.

Felly, os gwelwch ni wedi parcio ym Mhenrhyn Gŵyr, Pontarddulais, Mawr, Penclawdd, Fairwood, Pennard, Bishopston neu Langyfelach, galwch i mewn, dywedwch helo a mwynhewch!

Cysylltwch â ni yn: Youth.service@swansea.gov.uk.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.