Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Prinder Ymladdwyr Tân / Firefighters Shortage

Posted by CLICportia from Cardiff - Published on 18/01/2010 at 09:51
0 comments » - Tagged as People, Topical, Volunteering

  • pic for artcile

Conservative politicians are lobbying businesses in an attempt to solve a shortage of volunteer firefighters in Pembrokeshire.

The part-time firefighters are essential for keeping eight local fire stations in the county open. But a combination of factors, including large firms not allowing staff to be on call as firefighters whilst at work, has led to a shortage of volunteer firecrew.

Now local parliamentary candidate Simon Hart and Assembly Member Angela Burns are lobbying major employers to ask them to be more supportive.They learned about the problem during a tour of Whitland Fire Station – one of the many kept open thanks to retained firefighters.

In Whitland the firefighting crew also hold down jobs ranging from council driver and farmer to carpenter and shop keeper. But to cover daytime shifts as retained firefighters they have to be able to reach the station within a few minutes of a call.

“That’s why we are especially short of crew to cover the daytime shifts,” explained Station Manager Simon Pearson.

“We may have enough people who live close enough to the station for night calls but we also need people who can get there quickly from work.

“We find that some of the larger employers are not very accommodating when it comes to allowing retained firefighters to be on call while they are at work.”

Carmarthen West AM Mrs Burns said: “I think it’s very short-sighted and disappointing that big companies won’t let their staff be on call in case they get called in.

“These major employers can surely spare one person for a few hours on the rare occasions they’ll get called out – and they never know when they themselves will be in need of help from the fire service.”

Mr Pearson also spelled out other reasons for the recruitment problems.

“We have also lost people when companies have centralised operations and closed local outposts,” added Mr Pearson.

In Whitland, for example, the closure of the milk factory led to the loss of four retained firefighters. “I think there’s also less sense of public duty among youngsters these days which may have added to the problem,” added Mrs Burns.

Mr Hart was impressed by the dedication and professionalism shown by the retained firefighters.

“The crew obviously get a huge sense of satisfaction from doing something so worthwhile and the camaraderie in the team was great to see,” he said. “It’s a pity that they don’t get more support from employers and I’ve now written to one of the biggest employers in the county to ask them to consider supporting retained fire crew.”

Firefighter David Lewis, who is a mechanic in a Whitland garage by day, has been a crew member for 11 years. “I would never give it up now, I love the job so much,” he said. “I still get an adrenaline rush when the bleeper goes off, you just never know what it might be.”

To be a retained firefighter you must be at least 18. Check out Mid And West Wales Fire And Rescue Service or visit your local fire station to find out more.

-------------------------------------------------------

Mae gwleidyddion Ceidwadol yn rhoi pwysau ar fusnesau i geisio datrys prinder o ddiffoddwyr tân gwirfoddol yn Sir Benfro.

Mae’r diffoddwyr tân rhan-amser yn hanfodol i gadw wyth o orsafoedd tân lleol yn y sir ar agor. Ond mae cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys cwmnïau mawr yn gwrthod caniatáu i staff fod ar alwad fel diffoddwyr tân pan fônt yn y gwaith, wedi arwain at brinder o griw tân gwirfoddol.

Yn awr mae’r ymgeisydd seneddol lleol Simon Hart a’r Aelod Cynulliad Angela Burns yn lobïo cyflogwyr mawr i ofyn iddynt fod yn fwy cefnogol.  Cawsant ddysgu am y broblem wrth fynd ar ymweliad o amgylch Gorsaf Dân Hendy-gwyn ar Daf – un o’r llawer a gedwir ar agor diolch i ddiffoddwyr tân wrth gefn.

Yn Hendy-gwyn ar Daf, mae gan y criw o ddiffoddwyr tân hefyd swyddi yn amrywio o fod yn yrrwr i’r cyngor a ffermwr i saer a siopwr. Ond i weithio ar shifftiau yn ystod y dydd fel diffoddwyr tân wrth gefn mae’n rhaid iddynt hefyd allu cyrraedd yr orsaf o fewn ychydig funudau o dderbyn galwad.

“Dyna pam ein bod yn arbennig o fyr o griw i weithio shifftiau yn ystod y dydd,” eglurodd Rheolwr yr Orsaf Simon Pearson.

“Efallai fod gennym ddigon o bobl sy’n byw yn ddigon agos i’r orsaf ar gyfer galwadau nos ond mae arnom angen pobl hefyd a all gyrraedd yno’n gyflym o’r gwaith.

“Rydym yn darganfod nad yw rhai o’r cyflogwyr mwyaf yn gefnogol iawn pan ddaw’n fater o ganiatáu i ddiffoddwyr tân wrth gefn fod ar alwad pan fônt yn y gwaith.”

Meddai AC Gorllewin Caerfyrddin Mrs Burns: “Rwy’n meddwl fod hyn yn annoeth iawn ac rwy’n siomedig nad yw cwmnïau mawr yn fodlon i’w staff fod ar alwad rhag ofn y byddant yn cael eu galw allan.

“Fe ddylai’r cyflogwyr mawr hyn yn sicr allu sbario un unigolyn am ychydig o oriau ar yr achlysuron prin y maent yn cael eu galw allan – a dydyn nhw fyth yn gwybod pryd y bydd arnyn nhw eu hunain angen cymorth gan y gwasanaeth tân.”

Cyflwynodd Mr Pearson resymau eraill am y problemau recriwtio hefyd.

“Rydym wedi colli pobl pan fo cwmnïau wedi canoli eu gweithrediadau ac wedi cau gorsafoedd lleol,” ychwanegodd Mr Pearson.

Yn Hendy-gwyn ar Daf, er enghraifft, arweiniodd cau’r ffatri laeth at golli pedwar diffoddwr tân wrth gefn. “Rwyf hefyd yn meddwl fod llai o ymwybyddiaeth ynghylch dyletswydd gyhoeddus ymysg pobl ifanc y dyddiau hyn a all fod wedi ychwanegu at y broblem”, ychwanegodd Mrs Burns.

Roedd Mr Hart yn canmol yr ymroddiad a’r ysbryd proffesiynol a ddangoswyd gan y diffoddwyr tân wrth gefn.

“Mae’r criw yn amlwg yn cael llawer iawn o fwynhad wrth wneud pethau mor werth chweil ac roedd y cyfeillgarwch o fewn y tîm yn wych i’w weld,”  meddai.  Mae’n drueni nad ydynt yn cael mwy o gefnogaeth gan gyflogwyr ac rwyf bellach wedi ysgrifennu at un o’r cyflogwyr mwyaf yn y sir i ofyn iddynt ystyried cefnogi criw o ddiffoddwyr tân wrth gefn.”

Mae’r diffoddwr tân David Lewis, sy’n fecanig mewn garej yn Hendy-gwyn ar Daf yn ystod y dydd, wedi bod yn aelod o’r criw am 11 mlynedd. “Fyddwn i byth yn rhoi’r gorau iddi nawr, rwy’n caru’r swydd ormod,” meddai. “Rwy’n dal i deimlo’r adrenalin yn rhuthro pan fo’r gloch yn canu, dydych chi fyth yn gwybod beth allai fod yn digwydd.”

I fod yn ddiffoddwr tân wrth gefn rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf.  Ewch i  Mid And West Wales Fire And Rescue Service neu ymwelwch â’ch gorsaf dân leol i ddarganfod mwy.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.