Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Hawlio'ch Llain

Posted by keeley from Denbighshire - Published on 24/11/2011 at 14:25
0 comments » - Tagged as Education, People

English version

Mae The Stake yn gystadleuaeth newydd sydd yn darparu pobl ifanc efo'r cyfle i ecsbloetio eu sgiliau busnes a mentrus er mwyn ennill cyllid gall ddefnyddio ar gyfer syniadau cymuned neu fusnes fydd yn gwneud gwahaniaeth.

Yn cael ei ariannu gan Channel 4 Education ac mewn partneriaeth â Banc Barclays, mae The Stake yn bwriadu dangos fod busnes a menter gymdeithasol yn gallu bod yn greadigol, hwyl ac yn sialens a bod syniadau da ac angerdd yn gallu cael eu gwobrwyo. Mae'r fenter hefyd yn galluogi i'r cyhoedd ehangach benderfynu sut bydd cyfanswm o £100,000 yn cael ei wario.

Bydd mwyafswm o chwe enillydd yn cael hyd at £20,000 (lleiafswm o £1,000), ynghyd â chefnogaeth gan gynghorwyr Barclays ar asiantaeth ymrwymiad ieuenctid, Livity, i wneud eu syniadau ddod yn realiti rhwng Ionawr a Mawrth 2012.

Gall yr arian gael ei ddefnyddio i ariannu amrywiaeth o brosiectau; er esiampl, busnes cychwynnol, ramp sglefrio ysgol newydd neu ddigwyddiad unigryw.

Gall unrhyw un rhwng 16 a 21 oed gyflwyno syniadau am sut byddent yn gwario cyfran o'r arian.

I gofrestru ymwela â: www.thestake.co.uk

Gad i ni wybod sut mae pethau'n mynd!

Tudalennau Arian

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.