Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Hanesion O'r Penwythnos Preswyl

Posted by CLICtania from National - Published on 03/06/2010 at 11:25
1 comments » - Tagged as Comedy, Creative Writing, Education, Movies, People, School Holiday Activities, Stage, Sport & Leisure, Technology, Volunteering, Yn Gymraeg

  • resi 7
  • resi 7
  • Resi 1
  • Resi 2
  • resi 3
  • resi 4
  • resi 5
  • resi 6

In English

Rydym ni newydd gyrraedd adref o Benwythnos Preswyl Cynllunio CLIC yn Bae Caerdydd.

Mae CLIC efo gwefannau dros Gymru, a phwrpas y penwythnosau preswyl ydy i ddod a phobl ifanc o draws y wlad gyda’i gilydd i gyfarfod, cael hwyl, a gwneud y rhwydwaith CLIC yn well.

Roedd hwn yn ‘benwythnos preswyl cynllunio’, a’r bwriad oedd cynllunio yn union beth ydych chi eisiau ddigwydd yn y Penwythnos Preswyl CLIC yng Ngorffennaf, ac mae croeso mawr i unrhyw un ddod (rhwng 11 a 25 oed).

Roedd hi’n benwythnos grêt, ac roedd y gweithdy diwethaf cyn mynd adref yn un ysgrifennu erthyglau i CLIC am y gweithdy. Isod mae rhai o’r pethau roedd gan y tîm i ddweud am y penwythnos:

Fy Mhenwythnos yng Nghaerdydd
gan ant o Sir Fflint

Dydd Gwener cyrhaeddom Caerdydd am y Penwythnos Preswyl CLIC. Cymerodd y siwrne car oes: pum awr i gyrraedd Caerdydd!


Pam gyrhaeddom cawsom fwyd ac yna gweithdai i ddod i adnabod ein gilydd a phethau fel yna. Cerddom o gwmpas Bae Caerdydd ac roedd rhai pobl yn ofnus gan ei bod hi’n benwythnos gŵyl y banc felly roedd lot o bobl allan, a chawsom ein cadw i fynnu drwy’r nos oherwydd y “criw zombie” (gweler isod).

Y diwrnod wedyn cawsom lot o weithdai ac roedd yn hwyl. Yna cawsom fynd ar gwch sydyn – aethom allan i’r môr tuag at Barri ac roeddem i gyd yn wlyb socian oherwydd roedd y tonnau yn uchel. Yna aethom i Ganolfan Red Dragon i fowlio a chael pitsa ac yna cawsom ein cadw i fyny drwy’r nos eto gan griw zombie arall. AC ROEDD O I GYD YN HWYL!

Preswyl Epig
gan ANTLERD o Sir Fflint

Ar y dydd Gwener, 28 Mai, aeth pedwar person ifanc o Sir Fflint a’r siwrne epig i Bae Caerdydd. Cyrhaeddom am 6.30pm. Cawsom ein dangos i’n hystafelloedd ac yna aethom i lawr am swper a diod.

Daethom i adnabod lot o bobl ifanc newydd a staff newydd. Ein gweithgaredd egnioli goraf oedd Y Can Banana gafodd ei redeg gan Ant a Alex. Yna aethom ar gwch sydyn cŵl dros ben. Roedd o’n 'mint' ond cawsom geg lawn o ddŵr halen – dylai wedi cael sglodion gyda fo.

Yna daethom yn ôl i Ganolfan yr Urdd a bwyta te cyn cael yn barod, yna aethom i fowlio, roedd o yn 'class': roedd pedwar tîm o chwech neu fwy. Yna daethom yn ôl a mynd i’n gwlâu a chodi heddiw ond nid ydym eisiau mynd adref achos mae wedi bod yn anhygoel.

‘Freaks’ Wyth Coes
gan Alex o Gastell-Nedd Port Talbot

Roedd ystafell yng Nghanolfan yr Urdd Caerdydd ar ddydd Gwener, 28 Mai. Rhif yr ystafell oedd 208: yr ystafell fwyaf neis dwi wedi aros mewn yn y penwythnosau preswyl yma.

Ond fe ddigwyddodd o’i gyd yn ystafell 208 o gwmpas 4:15…ymosodiad y pry cop! Roedd crafu a chropian dros fy nghorff i gyd! Roedd ffrindiau eraill yn yr ystafell a gafodd yr un profiad a mi ond yn anffodus cawsant nhw amser gwell ohoni a ddim cael eu brathu. Dwi’n meddwl am dynnu pry cop yn ddarnau yn syml am yr hwyl ohono. Maen nhw wedi brathu fi gymaint ddylai nhw fod wedi gorffen fi, y diawled barus. Cer i McDonalds neu rywbeth a gofynna am bryd Big Mac.

Y Diwedd
gan Alex, dal yn fyw.

Dwi Ar Gwch
gan Beth o Ynys Môn

Ar 29 Mai, aeth pawb oedd yn cymryd rhan ym mhenwythnos preswyl CLIC ar drip cwch cyffrous ar draws Bae Caerdydd fel ein gweithgaredd dydd.

Yn gyntaf, aethom lawr i jeti Bae Caerdydd i baratoi am y siwrne wallgof o’n blaenau. Cawsom groen melyn llachar a siaced achub sy’n enchwythu, yn lwcus nid oedd rhaid ei ddefnyddio!

Aethom i lawr at y ddau gwch sydyn oedd yn barod i fynd! Cawsom i gyd gyfarwyddiadau am beth ddylai ni wneud a pheidio gwneud. Gafaelodd pawb yn dynn gan ein bod am gael trip garw.

Wrth i ni fynd am y loc, dechreuodd fwrw glaw yn drwm, ond fe wnaeth hyn y profiad yn hyd yn oed mwy pleserus a gwyllt! Roeddem i gyd wedi diddori yn sut oedd y dŵr yn y loc yn diflannu o flaen ein llygaid!

Y darn fwyaf gwallgof o’r siwrne oedd pan ddechreuodd y canu, roeddem i gyd yn canu ‘Y Can Banana’, ac wedyn y gan ‘I’m On A Boat!’

Roedd llwch dŵr yn chwipio ein hwyneb, oedd yn pigo ac yn teimlo fel bod nodwyddau yn cael eu procio i’n hwynebau, mor anghyffyrddus! Ond eto, fe wnaethom ni i gyd fwynhau!

Roedd y gyrwyr cwch, y ddau yn ferched, yn lyfli ac roedd gyrwyr y cwch dros ffordd yn wallgof! Yn hongian dros yr ochr a phopeth!

Fel y daethom yn ôl i’r loc, cawsom ein croesawu gan bad hwylio mawr llawn o bobl drahaus! Roeddent yn gwneud hwyl ohonom, ac yn meddwl eu bod yn well na ni. Roedd un o’r merched ar y cwch yn tynnu lluniau ohonom.

Rhwng popeth, fe wnaeth pawb fwynhau'r trip cwch, a byddem yn ei wneud drosodd a throsodd!

Diolch CLIC am ddiwrnod anhygoel!

Bowlio (Fe enillais i bopeth)
gan A o Wrecsam

Ar nos Sadwrn aeth pawb, gan gynnwys fi, i fowlio.

Cerddom yn araf i lawr i Ganolfan Red Dragon. Pan gyrhaeddom roedd rhaid i ni wisgo'r trainers mwya’ gwirion erioed ac yna disgwyl i gael lonydd bowlio. Yn y diwedd cawsom lonydd a mynd i mewn: rhoddodd pawb ei enw ar y sgrin a dechrau chwarae.

Tua chwarter o’r ffordd i mewn i’r gêm aeth Dan a fi i’r cownter i newid fy mhunt i mewn i ddarnau 10c. Ar ôl i mi gael yr arian es i’r peiriant deg ceiniog. Rhoddais fy arian i gyd i mewn tan nad oedd dim ar ôl. Roedd lot o wobrau bron yn barod i ddisgyn. Roeddwn i’n edrych ar y peiriant drwy’r adeg yn erfyn. Dywedodd Dan fod y peiriant ddim ond yn edrych fel yna i dwyllo ti, ond roeddwn i yn gwybod yn well. Yna disgwyliais a dyma lot o 10c yn disgyn o’r peiriant felly aeth Dan a fi i nôl diod a phitsa. Ar ôl y pitsa aethom yn ôl i’r peiriant deg ceiniog, a enillais bapur £5 a nifer o 10c mewn pwrs bach, yna aethom yn ôl i’r gêm bowlio ac enillais hwnnw hefyd!!!!!

Diffyg Cwsg
gan Jess o Fro Morgannwg


Mae hi’n ddiwedd Penwythnos Preswyl Cynllunio CLIC ac mae pawb wedi cael lot o hwyl ond rydym ni gyd wedi blino gymaint.

Cyrhaeddom Bae Caerdydd ar y nos Wener ac ar ôl y gweithdai penderfynu ei bod yn amser i fynd i’r gwely, ond roedd rhywun wedi rhoi camera i un o’r bobl ifancaf *tagu*Dan*tagu* ac mi fetiai eu bod yn difaru am bedwar y bore. Oddeutu 15 ffilm zombie wedyn dwi’n meddwl fod pawb wedi llwyddo i ddisgyn i gysgu. Roedd un o’r genethod efo obsesiwn am zombies ac eisiau gwneud ffilm zombie. Roedd pawb yn serennu fel zombie yn y ffilm yma, o’r bobl ifanc CLIC i staff Canolfan yr Urdd. Cawsom oriau o fangio, sgrechian, ochneidio, cerdded yn araf, a rhywsut chwerthin (dwi ddim yn cofio gwylio ffilm zombie efo pobl yn chwerthin ynddo…).

Y diwrnod wedyn roedd pawb yn ymddwyn fel zombies yn naturiol gan eu bod wedi blino gymaint, ond o leiaf gallwn gael ychydig o gwsg nos Sadwrn…roedden ni’n meddwl. Yn hytrach, roedd byrddau a chwpanau yn cael eu lluchio o gwmpas a hyd yn oed mwy o zombies (yn arwain at fwy o ddiffyg cwsg), ond yn lwcus fe wnaeth staff CLIC ddeud wrth bawb fynd i gysgu chwarter wedi un. Mae pawb dal wedi blino nawr ac yn ymddwyn fel zombie oherwydd hyn, ond mae’n siŵr fod hynny yn dangos faint o hwyl cawsom. Ni allaf ddisgwyl tan y penwythnos preswyl nesaf, a gobeithio fe gawn drwy’r un yma heb ymosodiad zombie (: . (Grêt, dwi newydd glywed rhywun yn dweud fod nhw eisiau ffilmio golygfa ddiwethaf y ffilm s: )

Preswylwyr Zombie a Gwrthdrawiad y Ninjas yn yr Urdd
gan emily16 o Fro Morgannwg


Os oes un peth dwi’n sicr ohono, yna hynny yw bod zombies (a ninjas wedi meddwl) yn crefu te.

Wel, ymennydd hefyd, ond yn bennaf y te; y ninjas a’r zombies Prydeinig ydy'r rhain ar ddiwedd y dydd. Y penwythnos hwn. Cafodd y ‘blockbuster’ diweddaraf ei ffilmio a’i gyfarwyddo gan Emily ni, yn cynnwys zombies, pobl, pobl yn troi mewn i zombies, zombies yn cael eu saethu efo ‘party poppers’, cyllid isel a maestro amheus. Mae’r ffilm hwn yn groesiad gwych rhwng Zombieland, Crouching Tiger…a phob ffilm Charlie Chaplin sydd erioed wedi’i wneud.

Dyma’r cast:

Samantha o Gaerdydd (mynwent) - Zombie 1

Shaun o Bontypridd - Kevin

Emily o’r Fro (darpar Spielberg)- Cyfarwyddwr

Paul o Ynys Môn (crypt) - Archibald Rockafella/Zombie 2

Elin o Gaerdydd - Maestro

Nicole o Gaerdydd - Actor cefndirol

Amy o Wrecsam – Actor cefndirol

Alex o Bort Talbot – Actor cefndirol

Gyda’r wyth o bobl ifanc anhygoel o dalentog yma o draws Gymru yn cyfarfod mewn un hostel, roedd y ffilm newydd gwych, enillydd gwobrwyon o fri, yn sicr o ddigwydd!

Y plot yn syml ydy fod zombies yn bwyta pobl i gerddoriaeth gan Erik Satie, CPE Bach a Malcolm Arnold, gan gynnwys addasiad ar y pryd gan Amy, prentis y Maestro. Mae Archibald yn dechrau saethu nhw ond yna yn cael ei frathu ac yn marw, gyda chanlyniadau ofnadwy…

A nawr y ninjas!!! Am dri'r bore, mae rhai o sêr y ffilm, Shaun, Elin, Sam, Nicole a Paul, wedi’i ymuno gan Dan y Dyn Gwallgof, wedi mynd i gael panad o de yn “trelar y sêr”. Ond rhedwyd allan o lefrith. Yn amlwg, heb lefrith, methwyd gwneud y te a ni pharwyd yn hir yn y “trelar”, cyn cael ysfa i ddechrau sleifio o gwmpas yr adeilad heb gael eu gweld gan y rhai mewn rheolaeth! Roedd hyn yn golygu darganfod coridor cudd, cael hanner ffordd i lawr y grisiau cyn troi’n ôl a rhedeg yn ôl i fyny eto yn ofni cael ein cymysgu am ladron, a hyd yn oed yn cuddio mewn cwpwrdd! Ond uchafbwynt y noson oedd aros i fyny tan bedwar y bore, a chodi am wyth y bore wedyn!

Bron Yn Amser Mynd Adref
gan Ant o Sir Fflint.


Wel mae wedi bod yn benwythnos grêt diolch i’r staff a’r bobl ifanc ac mae bron yn amser i fynd adref. :( Dwi wedi cael hwyl yn gwneud y gweithdai a’r gweithgareddau, ac wedi dysgu sut i ysgrifennu erthygl i CLIC. Dwi ddim eisiau mynd adref!

Dod Yn Ôl Adref
gan A o Wrecsam


Roedd dod adref yn wych. Roeddwn i wedi blino gymaint ac mor llwglyd.

Roedd dod yn ôl o benwythnos mor wych yn dysgu beth oedd CLIC amdan yn grêt. Roedd cyfarfod lot o bobl newydd yn brofiad arall i fi a dwi’n siŵr i lot o’r bobl eraill, cefais amser grêt.

I weld mwy o luniau, ymwela a’n Flickr.

Ac i weld rhai o’r ffilmiau zombie gwnaethom, edrycha ar ein tudalen YouTube.

1 CommentPost a comment

beth

Commented 23 months ago - 4th June 2010 - 11:22am

Roedd y penwythnos yn dda iawn. Rwyf wedi gwneud llawer o frindiau newydd, diolch i pawb am rhoi croeso mawr i ni gweld na roeddent wedi bod yna ar blaen. Roedd y gweithgareddau yn adeiladol iawn. Rwyf wedi dysgu llawer am Clic ac beth yw ei bwrpas. Yr uchafbwynt i mi oedd pan cafon ni i gyd fynd ar taith ar y cwch roedd yn profiad newydd i mi ac llawer o bobl ifanc hefyd. Roedd pawb wedi mwynhau yn enfawr. Gobeithio caf yr cyfle i ddod i benwythnos preswyl cynllunio arall. Diolch Beth

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.