Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Gwobrau Philip Lawrence

Posted by jeopreddy from Neath Port Talbot - Published on 22/04/2010 at 16:25
0 comments » - Tagged as People, Volunteering

English version

Mae Gwobrau Philip Lawrence 2010 bellach ar agor i dderbyn ceisiadau.

Sefydlwyd y gwobrau er cof am Philip Lawrence, a laddwyd y tu allan i’w ysgol yn ceisio amddiffyn disgybl rhag ymosodiad gan gang ym 1995.  Credai Phillip Lawrence  “fod pob person ifanc yn gallu bod â mawredd ynddo.” 

Sefydlodd Frances Lawrence, gweddw’r pennaeth, y gwobrau i hyrwyddo pobl ifanc oedd yn gwneud yn dda ac i gydnabod disgleirdeb ieuenctid heddiw. Gwobrwywyd ysgogiad Frances i sefydlu’r gwobrau a chrewyd y sefydliad ym 1997, a derbyniodd gyllid oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref, Michael Howard.

Bob blwyddyn mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi cymorth mawr i’r gwobrau. Nid yn unig y mae  Rhwydwaith Gwobrau Philip Lawrence (PLANET) yn derbyn cyllid ond hefyd eleni mae’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn cyfrannu’n ariannol.

Mae Frances yn ysbrydoliaeth fawr i mi ac rwy’n edmygu sut mae’n cefnogi pobl ifanc. Nododd “Rydym yn dymuno herio’r rhagdybiaeth ddychrynllyd nad yw pobl ifanc yn cyfrannu at ein cymunedau. Rydym yn gwybod eu bod yn cynnig egni, syniadau ac ymrwymiad ffantastig i wneud newidiadau yn eu cymunedau – sy’n gwneud bywydau’n well iddyn nhw ac i bobl ifanc eraill.”

Mae Gwobrau Philip Lawrence yn rhoi cydnabyddiaeth i ieuenctid haeddiannol drwy ddyfarnu £1000 i’w prosiect, gwahoddiad i’r seremoni grand yn Llundain, cydnabyddiaeth leol a chenedlaethol i’w mawredd a chyfle rhyfeddol i fod yn rhan o gymrodoriaeth PLANET.

O brofiad personol, byddwn yn argymell os oes gennych brosiect, y dylech roi cynnig am y gwobrau oherwydd mae hyn wedi creu llawer o gyfleoedd i  mi.  Rwyf bellach ar Brif Gymrodoriaeth PLANET, a’m gwelodd yn mentro i Firmingham i gyfarfod enillwyr blaenorol.

Roeddwn hefyd yn teimlo ar dop y byd ar ôl y seremoni gwobrwyo. Bûm yn cyfarfod ag aelodau o Flava, cystadleuwyr blaenorol a ymddangosodd ar Britain’s Got Talent, a Trevor McDonald oedd yn arwain y digwyddiad. Cyflwynwyd gwobr Cyngor Ieuenctid Castell-nedd Porth Talbot gan  Ed Balls  a’r Gwir Anrh. Alan Johnson.

I gael mwy o wybodaeth am sut i ymgeisio ewch i: www.philiplawrenceawards.net.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.