Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Graddio'r Bagloriaeth?

Posted by pulley from Swansea - Published on 25/11/2011 at 10:06
0 comments » - Tagged as Work & Training

English version

Efallai dy fod wedi clywed neu wedi cymryd rhan ym Magloriaeth Cymru, sydd yn gymhwyster cyffrous sydd yn rhoi dimensiwn newydd gwerthfawr i'r pynciau a'r cyrsiau sydd ar gael yn barod i fyfyrwyr 14 i 19 oed.

Mae'n cyfuno sgiliau datblygu personol gyda chymwysterau presennol fel Lefelau A, CGC (NVQ) a TGAU i wneud un wobr ehangach sydd yn cael ei adnabod a'i werthfawrogi gan gyflogwyr, prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill.

Mae Bagloriaeth Cymru yn cael ei werthfawrogi am ei fod yn helpu datblygu sgiliau personol dysgwyr. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol os wyt ti am wneud yn dda ar ôl gadael yr ysgol a chychwyn gwaith neu fynd ymlaen i addysg bellach.

Mae dros 200 o ganolfannau yng Nghymru wedi'u cymeradwyo i gynnig y cymhwyster Bagloriaeth Cymru i thua 53,000 o ddysgwyr o fis Medi 2010.

Mis Medi eleni cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru fod adolygiad o gymwysterau. Bydd yr adolygiad yn cysidro sut i sicrhau fod y system cymwysterau yng Nghymru yn ddealladwy, yn cael ei werthfawrogi ac yn cyrraedd anghenion pobl ifanc a'r economi Cymraeg.

Bydd rhan o'r adolygiad yn cysidro os dylai graddio'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, ac mae gwahoddiad i ti gwblhau arolwg byr i rannu dy feddyliau.

Gall yr arolwg gael ei gwblhau mewn ychydig funudau yma.

Bagloriaeth Cymru: Beth Sydd Angen I Fyfyrwyr Wybod

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.