Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

EisteddFlog: Dydd 2 Blog 1

Posted by dirty from Cardiff - Published on 31/05/2011 at 14:37
0 comments » - Tagged as Culture, Topical

  • Y&J
  • steddfod
  • Y&J

English version

Yr wythnos hon, mae CLIC yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe. Bob dydd, bydd un o'n hysgrifenwyr yn rhannu ei brofiad o'r ŵyl. Dyma Eisteddflogiau'r Urdd a dyma dirty yn blogio ar ddiwrnod dau…

Maen nhw yn wastad yn dweud ei bod hi ychydig raddau yn oerach ger y môr nag unrhyw le arall, a dwi'n cytuno'n llwyr wrth i mi gamu oddi ar y trên 08:58 i Abertawe o Gaerdydd ac yn crynu wrth i mi ddisgwyl am weddill y criw CLIC gyrraedd.

Roedd y brifddinas wedi bod yn gynnes ac yn heulog, ond nid yn Abertawe, y ddinas sydd yn cynnal Eisteddfod Yr Urdd eleni. Mae'r Urdd, i'r rhai ohonoch sydd efallai ddim yn gyfarwydd, yn sefydliad siaradwyr Cymraeg ifanc a bob blwyddyn maent yn cynnal Eisteddfod, ond fersiwn sy'n benodol i bobl ifanc.

Mae gwreiddiau'r Eisteddfod mewn miloedd o flynyddoedd o ddiwylliant Celtaidd traddodiadol ac mae'r prif un (mewn cyferbyniad i un yr Urdd) yn un o'r gwyliau diwylliannol mwyaf yn Ewrop ac yn fwyaf enwog am seremoni gadeirio'r bardd.

Cyrhaeddom yr Eisteddfod 45 munud wedyn wrth i'n car droi a throelli drwy lonydd maestrefol Abertawe,  y dirwedd yn dod yn fwy gwledig gyda phob troad. Cyrhaeddom gae llawn pobl, awyr llawn glaw a maes parcio yn llawn dop gyda gloddestwyr yn disgwyl i fwynhau cynigion y dydd.

Yn anffodus, ymddangosai ein bod wedi dod ar ddiwrnod anodd i CLIC, gan fod heddiw (dydd Mawrth) yn ddiwrnod sydd yn darparu'n benodol i'r rhai yn yr ysgol gynradd, o thua pedwar i un ar ddeg oed. Mae'r Urdd efo gwahanol ddyddiau i wahanol oedrannau ond, er hyn, fe welsom bethau diddorol wrth grwydro'r maes, yn disgwyl i weld beth oedd o gwmpas.

Roedd pabelli wedi'u gwasgaru ar y cae mwdlyd gyda nifer o wahanol sefydliadau, yn profi fod yr Urdd yn ŵyl sydd yn eang iawn yn ddiwylliannol, yn ymgorffori diwylliant yr iaith Gymraeg a'r diwylliant sydd o'i gwmpas. Roedd stondinau i bopeth, o'r  CBAC i'r tŷ argraffu Cymraeg Y Lolfa, o stondinau gemwaith i stondinau sy'n cynnig gwybodaeth ar brifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.

Heb sôn, wrth gwrs, am y stondinau siopa diddiwedd yn cyflwyno cynnyrch Cymru yn amrywiol o giwt, gan gynnwys arwyddion llechen yn datgan yn annwyl 'yn yr ardd!'.

Roedd llawer o ddigwyddiadau diwylliannol. Roedd cystadlaethau dawnsio yn digwydd gyda phlant o Ddolgellau ac Abertawe,  a chystadlaethau barddoni. Bu nifer o gystadlaethau canu gan blant ysgol, yn ogystal â phabell yn arddangos bandiau iaith Gymraeg, er yn anffodus ni lwyddon nhw amlygu eu henwau.

Bu tipyn o gyffro ar y diwrnod hefyd wrth i ni grwydro o babell i babell yn gwylio digwyddiadau. Roedd Cymdeithas Yr Iaith yn cymryd y cyfle i siglo tuag at agenda gwleidyddol. Pa agenda? Wrth gwrs y mater o ariannu S4C yn cael ei dorri hyd at 97%, bydd efallai yn golygu colli'r rhaglen blant poblogaidd, Cyw.

Bu Cyw a'i ffrindiau yn cynnal protest, gydag AS Gorllewin Abertawe , Bethan Jenkins, cyn rhedeg yn ddryslyd i lawr y llwybr mwd i mewn i angof o fwytawyr byrgers, plant ifanc a dynion mewn  crysau Hawaii yn gwisgo sandalau gyda sanau.

Byddwn yn yr Eisteddfod bob dydd yr wythnos hon gyda'r pedwar diwrnod diwethaf yn cael ei dargedu tuag at bobl ifanc 15-20 oed ac yn diweddaru'r blog hwn yn fyw pob dydd.

Cofia ddod yn ôl i gael mwy o wybodaeth am Eisteddfod Yr Urdd 2012.

Eisteddflogiau'r Urdd
Dydd 1 Blog 1

I weld mwy o luniau o'r Eisteddfod edrycha ar ein halbwm Flickr ar ddiwedd pob dydd.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.