Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Cystadleuaeth Clipiau Fideo

Posted by CLICryan from National - Published on 27/05/2010 at 12:52
0 comments » - Tagged as Education, Movies, Sport & Leisure

English version

Mae cystadleuaeth gwneud clipiau fideo wedi agor i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau.

Mae Pupil Voice Wales yn chwilio am gynnwys a syniadau i wneud eu gwefan hyd yn oed yn fwy gweledol a rhyngweithiol, ac i annog ti i rannu dy brofiadau.

Mae’r gystadleuaeth, o’r enw  Your Future, Your Feature, yn agored i’r holl blant a phobl ifanc 3 – 18 oed yng Nghymru.

Gallai dy glipiau fideo fynegi un neu bob un o’r canlynol:

  • Sut y credi di y gallet fod â mwy o ran yn y gwaith o wneud penderfyniadau yn dy ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid
  • Sut wyt wedi gwella neu newid dy amgylchedd dysgu
  • Sut y galli di wneud dysgu yn brofiad hwyliog a rhyngweithiol i bawb

Bydda mor greadigol ag y gallet. Gall clipiau fod mewn amrywiaeth o ffurfiau gan gynnwys rhai dogfennol, comedi, defnyddio pypedau neu animeiddio, cerddoriaeth a chaneuon. Y nod yw tynnu dy gynulleidfa i mewn a’u cynnwys yn dy stori neu neges.

Y dosbarthiadau oed yw 3-10 a 11-18 oed. Am fwy o wybodaeth cer i wefan Pupil Voice Wales. Os oes gen ti unrhyw gwestiynau e-bostia CangenHawliau@Wales.gsi.gov.uk.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.