Cyllid I Addysg Bellach
Mae strategaeth addysg uwch a chynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain wedi addo y cyhoeddir cynllun bwrsari cenedlaethol y gwanwyn hwn.
Cyhoeddwyd yr adroddiad, Er mwyn ein Dyfodol, yr wythnos ddiwethaf gan Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Mae’n datblygu ar Ymgeisio yn Uwch 2002, a gyflwynodd yr heriau ar gyfer Cymrunewydd ddatganoledig.
Dywed mai’r ddau brif amcan ar gyfer system addysg uwch Cymru yw cyfiawnder cymdeithasol a llwyddiant economaidd, a rhybuddir prifysgolion mai “dim ond sefydliadau a all gyflenwi [ein] blaenoriaethau a all ddisgwyl bod yn fuddiolwyr” o fuddsoddiad cyllid cyhoeddus mewn addysg uwch.
Byddai’r cynllun bwrsari yn golygu y byddai pob myfyriwr yng Nghymru, pa bynnag brifysgol y byddent yn ei mynychu, yn derbyn yr un bwrsari. Ar hyn o bryd mae lefelau’r bwrsari yn amrywio’n helaeth ar draws prifysgolion, gyda myfyrwyr mewn sefydliadau sy’n llwyddiannus am ehangu cyfranogiad yn aml yn derbyn llai oherwydd bod yr arian yn cael ei wasgaru’n deneuach.
Mae rhai o’r argymhellion eraill yn adleisio cynlluniau diweddar llywodraeth y DU ar gyfer y sector, fel cynyddu cydweithrediad rhwng sefydliadau a gwella’r modd y datblygir y gweithlu mewn prifysgolion. Mae rhai eraill, fel darparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg, yn unigryw i’r argymhellion.
Mae’r cynlluniau hefyd yn hyrwyddo ehangu mynediad at addysg uwch ymhellach a thargedu cymorth ariannol at fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel i gyflawni’r nod hwn.


