Cyfweliad: Leighton Andrews
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Erthygl Fwyaf Defnyddiol yng Ngwobrau CLIC 2011.
Ar ddydd Mercher 14 Medi, bu Adam a Sinead o theSprout a finnau yn cyfweld Leighton Andrews – Gweinidog Dros Addysg a Sgiliau Cymru yn y Senedd. Yn y cyfweliad gofynnom i'r Gweinidog wyth cwestiwn pwysig gan bobl ifanc o Gymru.
Y cwestiwn cyntaf gafodd ei ateb gan y gweinidog oedd: Beth ydy eich cynlluniau chi i wella rhifedd a llythrennedd? Atebodd Leighton Andrews fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno profion darllen a rhifedd mewn ysgolion cynradd o flwyddyn nesaf i sicrhau fod pob plentyn rhwng 7 a 11 erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd, ar y lefel cywir pan ddaw at oedran darllen ac ymdopi gyda rhifau. Ond dwi'n credu bydd y prawf yn dangos canlyniadau ar y lefel o sgiliau rhifedd a llythrennedd ond nid yw'n datrys y broblem.
Yr ail gwestiwn roedd gen i angerdd mawr tuag ato oedd: Pan fod y CCUHP ddim yn rhan o gwricwlwm yr ysgol, er bod y llywodraeth yn gorfod gwneud yn sicr fod pobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau? Atebodd fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl fod ysgolion yn ymdrin â'r materion fel dinasyddiaeth a dealltwriaeth fwy eang o gymdeithas yn fras, ac maent yn gobeithio yn y dyfodol, gan fod Confensiwn Y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn dod yn rhan fwy pwysig mewn creu cyfreithiau yng Nghymru, wrth i'r cwricwlwm yn yr ysgolion ddatblygu, bydd yn cychwyn adlewyrchu hyn. Roedd hyn yn ateb fy nghwestiwn gan yr wyf bellach yn gwybod fod hyn yn ddyletswydd ar fy ysgol yn unigol i sicrhau eu bod yn dysgu dealltwriaeth eang o gymdeithas.
Cafodd y cwestiwn nesaf ei ofyn gan Adam, roedd hwn yn gofyn am ymateb i ariannu a chefnogaeth i bobl ifanc dros Gymru mewn addysg bellach. Sut ydych chi yn sicrhau fod pobl efo mynediad teg i gymorth pam maent yn ceisio cael i mewn i addysg uwch? Er esiampl os byddai myfyriwr yn cael graddau isel Lefel A a ddim yn gallu fforddio ail-eistedd. Esboniodd Mr Leighton pa mor hael ydy Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd gan fod costau addysg uwch yn cynyddu ym mis Hydref 2012, ond nad fydd rhaid i'r un myfyriwr yng Nghymru dalu'r costau ychwanegol, ble bynnag maent yn mynd ym Mhrydain. A gyda'r myfyrwyr sydd â phroblemau gyda'r sustem budd-daliadau, nid oes gan Lywodraeth Cymru'r grym dros y sustem budd-daliadau, y bos mawr yn San Steffan sydd yn rheoli hynny; ond mae cronfeydd ariannol wrth gefn ar gael a byddwn yn annog myfyrwyr i siarad gyda'r undeb myfyrwyr amdanynt. Roedd Mr Andrews hefyd eisiau i mi fod yn glir os oes unrhyw un sydd yn cael trafferth i ddod o hyd i gymorth, plîs gad sylwad isod neu cysyllta gyda dy Aelod Cynulliad lleol i godi'r mater i'w sylw. Tra roedd y drafodaeth hon yn cael ei drafod yn frwdfrydig, codais y ffaith fod lai o bobl yng Nghymru fydd ddim efo'r cyfle i gael mynediad i'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA), ond dywedodd Mr Andrews, oherwydd y toriadau nid yw'r Llywodraeth yn gallu parhau gyda phopeth, ond maent wedi gwneud penderfyniad i gadw'r raddfa £30 yr wythnos fel blaenoriaeth. Wyt ti'n cytuno gyda'r penderfyniad yma? Oes yna ffordd well?
Cafodd y cwestiwn nesaf ei awgrymu ar wefan CLIC: Pam fod rhai ysgolion, er eu bod yn dal yn ysgolion cyhoeddus, efo mynediad i offer gwell – cyfrifiaduron mwy sydyn, loceri ayb.? Atebodd Mr Andrews fod y sefyllfa yma yn ymwneud â sut mae'r ysgolion yn gwario eu harian – mae rhai awdurdodau lleol efallai yn prynu mewn swmp gan gyflenwr cyfrifiaduron tra mae eraill yn prynu eu hunain, felly nid yw arian yn mynd mor bell. Neu efallai bod rhai ysgolion yn dewis gwario'r arian ar wahanol adrannau o gefnogaeth myfyrwyr. Ond, mae cyllideb am welliannau ysgol wedi cael ei gwtogi o 40% ac mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio bydd awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau i gadw'r safonau'r un peth.
Arweiniodd y drafodaeth i gwestiwn arall: Ydy'r ffordd mae ysgolion yn cael eu mesur yn nhermau ansawdd yn deg? Cafodd hyn ei ateb gyda'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar fandio ysgolion. Na, dwi ddim yn golygu cael gwared ar ysgolion, trwy hyn maent yn edrych i wneud pethau'n glir i bawb am ba mor dda mae ysgol yn symud ymlaen, ac yna bydd yr awdurdod lleol yn gyfrifol am ymateb i ysgolion, pa bynnag fand ydynt, i sicrhau eu bod o safon. Golygai hyn fod awdurdodau lleol efo'r cyfle i symud arian o gwmpas o fewn y sustem i roi mwy o fuddsoddiad i mewn i ysgolion penodol sydd efallai ddim yn perfformio yn dda i ddod â nhw i ansawdd o safon uchel. Bydd y bandio yn cysidro amryw ffactor, nid canlyniadau arholiadau cyhoeddus yn unig, a'r flaenoriaeth fydd i gael arian i athrawiaeth a dysgu yn hytrach nag gweinyddiaeth. Beth wyt ti'n feddwl o'r cynnig hwn? Wyt ti'n meddwl byddai'n buddio pob ysgol?
Cwestiwn arall o'r wefan oedd: Ydych chi'n meddwl fod y Fagloriaeth Cymru orfodol yn gymhwyster pwysig? Dywedodd Mr Andrews ei fod o ac mae'n credu fod niferoedd o brifysgolion dros Brydain yn cynyddu, gan gynnwys Caeredin, yn derbyn y Fagloriaeth yn gywerth i 120 o bwyntiau UCAS (yr un peth ac A yn lefel-A) ac mae'n disgwyl iddo dyfu mewn pwysigrwydd fel cymhwyster wrth i brifysgolion addasu tuag ato fel cymhwyster newydd. Gan ymateb i'r honiad nad yw athrawon efo gafael dda ar sut i ddysgu'r Fagloriaeth, dywedodd fod hyn yn rhywbeth byddai'n cynghori'r cynghorau myfyrwyr yn yr ysgol i godi yn uniongyrchol gydag athrawon a prif athrawon.
I gau'r cyfweliad gofynnom y cwestiwn rydym wedi bod yn disgwyl amdano: Beth sydd yn digwydd os ydy person ifanc yn codi cwestiwn neu fater pwysig ar CLIC sydd angen ymateb gan wleidydd lleol neu genedlaethol? Sut ydym ni yn cael nhw i ateb hyn? Esboniodd Mr Andrews fod amryw ffordd i bobl ifanc ddod â'u materion i sylw Llywodraeth Cymru. Mae CLIC yn un ohonynt ac os wyt ti'n teimlo fod yr atebion i dy gwestiwn ddim yn cael eu rhoi yna dywedodd Mr Andrews byddai'n edrych i mewn i hyn. Dywedodd hefyd fod deiseb yn gallu cael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a bod gwleidydd yn gorfod ymateb mewn manylder. Mae Aelodau'r Cynulliad yn dy ardal di yno i ateb dy gwestiynau a gallet gysylltu gyda gwleidyddion trwy ysgrifennu llythyrau iddynt.
Ar y cyfan, dwi'n credu fod y cyfweliad yn llwyddiant mawr ac roeddwn yn teimlo fod Mr Leighton Andrews wedi llwyddo i ateb yr holl gwestiynau gofynnwyd iddo. Roedd ef hefyd wedi gwneud ni'n ymwybodol o'i broffiliau Twitter a Facebook ble mae cwestiynau pobl ifanc hefyd yn cael eu hateb.
Plîs ymateba i'r cwestiynau codwyd yn yr erthygl yma drwy bostio sylwad isod.
Gwybodaeth – Arian – Budd-daliadau
Gwybodaeth – Addysg – Addysg Uwch
Sefydliadau – EMA (Lwfans Cynhaliaeth Addysg)
Gwybodaeth – Arian – Arian Wrth Ddysgu – Addysg Ôl 16
Gwybodaeth – Byd, Ewrop, DU a Chymru – Gwleidyddiaeth – Gwleidyddiaeth Ieuenctid
Erthyglau perthnasol:
CCUHP: Geiriau Cywir, Trefn Anghywir
Cyfweliad Gyda Keith Towler
CCUHP: Camau Plant
CCUHP: Sut I Animeiddio


