Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Angen Cerddorion Ifanc I Ffilm!

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 01/05/2010 at 11:33
0 comments » - Tagged as Work & Training, Stage, Music, Art

  • ffilm4
  • ffilm
  • ffilm2
  • ffilm3

English version

Mae gwneuthurwyr ffilm yng Nghymru yn chwilio am gerddorion Cymraeg ifanc sydd eisiau bod yn sêr.

Mae Big Pond Productions, yn gweithio gyda Marc Evans (Snow Cake) a Jon Finn (Billy Elliot) yn saethu ffilm yng Nghymru'r haf hwn. Mae’r ffilm, Hunky Dory, gyda band roc ifanc a cherddorfa ysgol ynddo – ac os wyt ti’n meddwl dy fod di’n berffaith i fod yn un o’r rhain, mae clyweliadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar yr 2il, 8fed a 9fed o Fai.

Maen nhw angen pobl sydd yn edrych oedran ysgol uwchradd. Nid oes rhaid cael profiad action, er byddai’n ddelfrydol i’r band roc gael acennau De Cymru gan fydd ychydig o rolau siarad â nhw.

Bydd pythefnos o recordio clywedol yn hwyr yn fis Mehefin neu Orffennaf, ac wythnos o saethu ar y set rhyw bryd yn ystod yr haf.

Os oes gen ti ddiddordeb, neu yn adnabod rhywun fyddai, gwna gais gan fod clyweliadau wythnos nesaf.

Gwybodaeth lawn, a manylion ar sut i ymgeisio, isod:

YN ANGEN BANDIAU POP/ROC & CHWARAEWYR CERDDORFA

RHAID BOD YN CHWARAEWYR MEDRUS AC YN EDRYCH O OEDRAN YSGOL UWCHRADD

Clyweliadau Caerdydd Mai 2il, 8fed a 9fed

Ymgeisia cyn gynted â phosib i:

hunkydoryauditions@hotmail.com

OS GWELWCH YN DDA CYNHWYSA BYWGRAFFIAD BYR, LLUN DIWEDDAR AC UNRHYW LINCIAU MYSPACE/YOUTUBE/AYYB

Ffilm yn cael ei saethu yn Abertawe'r haf hwn.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.