Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

101010 Yng Nghymru

Posted by alexCLIC from National - Published on 06/10/2010 at 13:17
0 comments » - Tagged as Art, Creative Writing, Culture, Fashion, Music, Sport & Leisure

  • 101010cymraeg

English version

Beth fyddi di'n ei wneud ar 101010 yng Nghymru?

Dydy’r dyddiad yma ddim yn digwydd yn aml, felly hoffwn roi gwadd i ti farcio’r diwrnod drwy rannu llun sydd yn dogfennu dy Hydref 10 2010 yng Nghymru. Y dydd Sul hwn gyda llaw.

Ble bynnag yr wyt ti, a beth bynnag ti’n ei wneud – gall fod yn syrffio ym Mhorthcawl, cerdded ar hyd y prom yn Llandudno, sownd mewn lifft yng Nghaerdydd neu siopa yng Nghaerfyrddin… byddem wrth ein boddau gweld dy lun / ffotograff / dwdl / darlun / fideo.

Gwybodaeth bwysig

  • Ar agor i bawb sydd yng Nghymru ar 101010
  • Ar agor i BOB lefel o allu
  • Rhaid i ti fod yn berchen ar hawlfraint y darlun (mai ti sydd wedi ei dynnu! – dim dwyn oddi ar google ;) )
  • Rhaid i’r llun/fideo/darlun fod wedi ei dynnu neu ei wneud ar ddydd Sul 10 Hydref 2010
  • Gall unrhyw lun/fideo/darlun sydd yn cael ei gyflwyno cael ei gyhoeddi ar CLIC (bydd gen ti linc yn ôl ac yn cael dy gredydu)
  • Cynnwys dy gategori oed a lleoliad (0-11, 11-16, 17-25)
  • Bydd y dewis terfynol yn cael ei gyhoeddi ar-lein ar CLIC a Flickr (os nad wyt ti’n hapus efo hynny, plîs paid â chyflwyno dim)
  • E-bostia dy ddelwedd i alex@cliconline.org.uk gyda chategori oed / lleoliad, llwytha i fyny i grŵp flickr/facebook neu cyflwyno gyda stori o’r enw 101010 drwy CLICarlein.co.uk

Mwynha!

Ymuna’r grŵp Flickr

Ymuna ni ar Facebook

DY GYMRU DI MEWN UN DYDD

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.