Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Y Frwydr Yn Cychwyn

Postiwyd gan lolaCLIC o Conwy - Cyhoeddwyd ar 22/07/2011 am 11:41
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Gwyl, Pobl, Llwyfan, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes

English version

BOTB

Mae'r cyfnod ymgeisio wedi cau, mae'r bandiau/cerddorion i mewn ac mae'r rhai lwcus wedi cael eu dewis i chwarae mewn amryw rowndiau dros Gymru.

Rydym wedi cael nifer fawr o geisiadau o Gymru eang. Nawr mae'r amser wedi cyrraedd iddynt gychwyn brwydro ym Mrwydr  Y Bandiau CLICarlein/Merthyr Rock 2011 am gyfle i chwarae ar lwyfan Merthyr Rock!

Dyma sydd gan Jimi Love, o'r band The Hostages fu'n fuddugol llynedd, i ddweud am eu profiad nhw o ennill llynedd:

"Rydym wedi ennill tipyn o frwydrau'r bandiau ond gallaf ddweud yn onest mai'r gwobrwyon o BYB CLIC oedd y rhai mwyaf gwerthfawr a defnyddiol i ni fel band. Roedd recordio'r sengl tri thrac yn stiwdio'r Manic Street Preachers yng Nghaerdydd gyda'r cynhyrchydd Paul Durrant, yn un o'r penwythnosau gorau rydym wedi'i gael. Fe wnaethom ychydig o gysylltiadau hefyd na fyddai'r mwyafrif o fandiau yn ei gael yn hawdd.

"Roedd y fideo gwnaethom ar gyfer y sengl wedi'i gynhyrchu'r un mor broffesiynol â'r traciau. Ni allem fod yn hapusach gyda'r bobl yn stiwdios Burning Red. Mae'r ffaith ein bod wedi cael gwneud hyn i gyd yn ogystal â dweud ein bod wedi chware ar gae Stadiwm y Mileniwm yn rhywbeth na fyddem wedi gallu gwneud ar ben ein hunain o fewn blwyddyn. Anhygoel."

Hoffai CLIC a Merthyr Rock dweud DIOLCH YN FAWR IAWN i bawb ymgeisiodd, roedd hi'n wych clywed cymaint o gerddorion talentog. A phaid poeni os ti ddim wedi gwneud hi flwyddyn yma, bydd posib ceisio eto flwyddyn nesaf.

Felly, dyma'r bandiau a'r rowndiau:

Institiwt Glyn Ebwy :: Gwener 29 Gorffennaf
Drain The Lake
Heroes And Outlaws
Conquer The Decade
Dirty Sparrows
Men On The Chessboard

Y Ffactori, Porth :: Sadwrn 30 Gorffennaf
Editions
Venus Vipers
Hello Camaro
Clay Statues
Hotel Ambush

Sin City, Abertawe :: Sadwrn 13 Awst
After An Alibi
Hey Alaska
Eric Unseen
Ryan March
The Undivided

Hobos, Pen-y-bont ar Ogwr :: Sul 14 Awst
Akronist
Continents
Radio City
Solace Awaits
Charnel House

Drysau 7pm, gorffen am 11pm.
Tocynnau £4

Am wybodaeth bellach e-bostia julian@promo-cymru.org neu galwa 01495 708022.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.