Troi'n Veggie
Nid pregeth yw pwrpas yr erthygl hon, dim ond lle i ddweud fy stori am droi'n llysieuwr, sut oedd y newid hwn i mi a rhai o'r pethau ddysgais ar y ffordd.
Penderfynais ddod yn llysieuwr tua blwyddyn yn ôl, yn 20 oed. Stopiais fwyta cig a physgod ynghyd â bwyd a diodydd (ia diodydd!) sydd efo sgil-gynnyrch anifail ynddynt. Y rheswm? Wel, fel un sydd yn caru anifeiliaid ac yn amgylcheddwr brwd roeddwn yn meddwl ei bod hi'n bryd i mi ymrwymo yn fy nghrediniaethau. Roeddwn wedi bod yn fwytäwr cig am byth ac wrth fy modd efo cyw iâr yn enwedig felly roeddwn yn meddwl byddai'r newid yn anodd ac fe roedd mewn rhai ffyrdd.
Roedd rhaid i mi ddarganfod ffyrdd newydd o gydbwyso fy niet. Er esiampl, pan fyddwn yn gwneud cyri o'r blaen byddwn i'n ychwanegu cyw iâr i jar o saws, berwi reis a voila! Ond nawr, roedd rhaid i mi gychwyn cyflwyno bwyd i wneud y prydau yn fwy sylweddol ac felly roedd rhaid i mi drio llysiau nad oeddwn wedi arfer â nhw, fel planhigyn wy, corbwmpen, ac amnewid cig fel y 'tofu' dychrynllyd. Doeddwn i erioed wedi clywed am tofu o'r blaen ond fe ddysgais mai cynnyrch wedi ei wneud o ffa soia ydyw ac mae'n hollol seiliedig ar blanhigyn. Mae hefyd yn edrych ychydig yn debyg i gaws feta pan ti'n ei brynu’n ffres o'r archfarchnad, nid bwyd sydd yn apelio llawer! Fe ddechreuais brynu cynnyrch Quorn hefyd. Mae'r mins, selsig a darnau cyw iâr wedi'u dylunio i helpu gwneud y newid yn haws i fwytawyr cig.
Ar ôl i mi droi'n veggie, cefais wybod ychydig ffeithiau diddorol, er esiampl, mae'n rhaid i mi bob tro edrych ar fwyd i wneud yn sicr fod symbol 'V' arnynt gan fod nifer o fwydydd sydd yn ymddangos fel rhai llysieuol yn cynnwys sgil-gynnyrch anifail. Nawr dwi'n siŵr eich bod i gyd yn gyfarwydd bod melysion jeli a'r math Haribo yna wedi'u gwneud o elatin – esgyrn, croen a thendonau anifeiliaid wedi'u berwi – ond oeddet ti'n gwybod fod llysieuwyr llym fel fi ddim yn gallu bwyta marshmallows, rhai cawsion, ac yfed rhai gwinoedd?! Roedd hyn yn synnu fi ac fe ddysgais cymaint roedd cyflenwyr bwyd yn ddibynnol ar anifeiliaid am eu cynnyrch.
Heddiw mae llawer gormod o anifeiliaid yn cael eu hecsploetio am fwyd. Ar hyd oes mae'r bwytäwr cig arferol yn bwyta 11,000 o anifeiliaid. Hyd yn oed os na fyddet ti eisiau mynd yn gwbl lysieuol, drwy gael un neu ddau ddiwrnod o'r wythnos heb gig gallet leihau'r cyfanswm hwn yn sylweddol. Mae llai o alw am gig yn golygu fod llai o anifeiliaid yn cael eu lladd bob blwyddyn. Mae troi'n llysieuwr hefyd yn gyfeillgar i'r amgylchedd ac yn ffordd fwy cynaliadwy o ddefnyddio adnoddau'r byd. Nid oes gan anifeiliaid lais, ein cyfrifoldeb ni ydy amddiffyn nhw. Mae llawer o anifeiliaid yn cael eu bridio dim ond am eu cig ac maent yn byw bywydau byr iawn a heb gyflawni dim. Er ei fod yn ymddangos fel newid bach yn y byd mae troi'n llysieuwr neu leihau faint o gig ti'n bwyta yn helpu amddiffyn anifeiliaid.
Ar ôl ei mentro hi a newid fy niet dwi heb edrych yn ôl unwaith. Dwi ddim yn cael fy nhemtio gan gig ddim mwy gan fod fy moesau a'n nghred yn sefyll rhyngof i a'r oglau yna sydd yn dod o'r byrgyrs cig eidion yn coginio ar y barbiciw. Dwi'n hapus yn bwyta cig ffug ac yn parhau i gael yr un pleser o fwyd ag yr oeddwn cynt. Gallaf ddweud yn hyderus byddaf yn llysieuwr am weddill fy mywyd, os nad yw rhesymau iechyd yn golygu fod rhaid i mi gychwyn bwyta cig eto. Dwi'n gwybod fod yr aberth nid yn unig yn fudd i mi a fy niet, ond hefyd i'r miloedd o anifeiliaid dwi'n achub drwy wneud y dewis hwn. Dwi'n hapus fy mod i wedi ymrwymo i hyn ac wedi gwneud newid am y gorau.
Tudalen wybodaeth Bwydlysyddiaeth a Feganiaid


