Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Tocyn Am Ddim I Sioeau'r Steddfod

Postiwyd gan Shouttawe Editor o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 23/05/2011 am 14:23
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Dawns, Gwyl, Hanes, Cerddoriaeth, Pobl, Llwyfan, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes, Yn Gymraeg

English version

I ddathlu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe wythnos nesaf, mae CLIC yn cynnig tocynnau adolygu i ddau o'r prif ddigwyddiadau.

Bydd y cyngerdd agoriadol yn digwydd yn y Pafiliwn ar ddydd Sul, 29 Mai am 8yh, gyda gwesteion yn cynnwys John Owen-Jones, Alex Jones, Cerys Matthews, Shaheen, Ysgol Gerdd Mark Jermin, Dawnswyr Talog a llawer mwy.

Cyn hynny, ar ddydd Sadwrn 28 Mai (8yh) bydd noson agoriadol y cynhyrchiad ysgolion uwchradd, Abertawe'n Fflam, drama gerdd wedi'i selio ar hanes yr Ail Ryfel Byd. Yn adlewyrchu bywyd mewn tref brydferth sydd ers hynny wedi codi fel ffenics o'r llwch i ddod yn ddinas ydyw heddiw.

Mae dau docyn am ddim i'r sioeau. Yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy mynd yno, mwynhau ac yna llwytho adolygiad i fyny i dy wefan CLIC lleol, neu'r un cenedlaethol os ydy'r wefan yn dy ardal di yn dal yn cael ei ddatblygu.

Diddordeb? E-bostia ryan2cliconline.co.uk neu galwa 029 2046 2222, a byddwn yn tynnu enwau o het (neu yn hytrach eu rhoi mewn teclyn ar-lein i ddewis enw ar hap) dydd Gwener.

Eisteddfod Yr Urdd

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.