Stori Cariad Abertawe
‘Yn 2009, adroddwyd codiad o 180% mewn defnydd heroin gan asiantaethau cyffuriau Abertawe, ac mae’n weladwy ar strydoedd y ddinas.’
Ond sut wyt ti’n portreadu bywydau pobl ifanc digartref fel rhywbeth mwy nag ystadegau?
Cafodd y rhaglen ddogfen chwe rhan ‘Swansea Love Story’ ei ffilmio dros gyfnod o chwe mis yn Abertawe yn 2009, a’i ryddhau cynharach y flwyddyn yma ar sianel teledu Vice Magazine, VBS.
Yn dilyn stori saith o bobl sydd wedi’u dal rhwng caethineb heroin ac alcohol, mae’r ffilm yn archwilio sut mae economi newidiol a moesau cymdeithasol yn cyfrannu at yr epidemig narcotig yn Ne Cymru.
Y prif bwrpas ydy dangos ochr o’r stori sydd ddim yn cael ei weld yn aml: nid yn aml wyt ti’n darganfod disgrifiadau moesol o gyfres ddogfennau, na thywyllwch a thynged o’r fath chwaith.
Yn gyferbyniol, roedd gan y cynhyrchwyr efo’r cymhelliant i chwilio am yr arwyr o fewn y dihirod amlwg byddai rhywun efallai yn osgoi ar y stryd. A drwy wneud hyn, mae’r cyhoedd yn gweld bywyd y bobl hyn mewn mwy na du a gwyn: dramatig, ingol, ond hefyd yn llawn hiwmor tywyll.
Yn y cylch hwn o ddod oddi ar y cyffuriau ac yna’n atgwympo, mae’r stori gariad o Amy a Cornelius yn ymddangos mor ansefydlog â chastelli dywod yn y Bae. Ond, rwyt ti’n sylweddoli yn sydyn fod profiadau eu bywydau yn dod ar ddau at ei gilydd.
Rhai o’r rhain yw: geni babi marw-anedig o ganlyn trais yn y cartref, gorfodi i mewn i buteindra yn 14, neu ddelio cyffuriau yn 16.
Beth sydd yn ailadrodd y synnwyr realiti ydy’r amcan, integreiddio an-fewnwthiol o’r straeon i mewn i dirwedd Abertawe, sydd yn dod yn fwy cythryblus pan rwyt ti’n dechrau adnabod rhai o’r tirnod lle cawsant ei ffilmio.
Tudalennau Camddefnyddio Sylweddau Shouttawe
RHYBUDD: Mae’r fideos ‘Swansea Love Story’ yn cynnwys delweddau o ddefnydd cyffuriau trwm, ac iaith gref. Plîs paid â gwylio nhw os wyt ti’n debygol o gael dy gyffroi neu dramgwyddo. Gallent gael eu darganfod ar Vice TV.
DELWEDDAU: www.viceland.com



