Siaradais Gyda Meic
Mae'r erthygl ganlynol gan aelod CLIC sydd eisiau aros yn anhysbys.
Yn ddiweddar, dwi wedi cael ychydig o broblemau dwi'n teimlo dwi ddim yn gallu ymdopi gyda nhw.
Roeddwn yn teimlo fel y byddwn yn byw efo'r broblem yma am byth a byddai pethau yn mynd yn waeth.
Dwi'n aelod o CLICarlein ac un diwrnod roeddwn ar y wefan a gwelais erthygl am Meic. Cliciais arno gan ei fod i weld yn ddiddorol ac roedd yn esbonio sut roedd Meic yn llinell gymorth gyfrinachol i rai 0-25 oed.
Yn syth roeddwn yn meddwl byddai hyn yn gyfle perffaith i gael gwared â'r holl straen oedd arnaf ac efallai darganfod cymorth. Ymwelais â gwefan Meic a darllen ychydig mwy am y gwasanaeth cyn penderfynu siarad gyda rhywun trwy’r gwasanaeth negeseuo sydyn sydd ganddynt.
Roedd rhaid i mi ddisgwyl deg munud cyn i mi gael siarad gyda chynghorydd ac roedd hyn yn fwy sydyn nac yr oeddwn wedi disgwyl. Roedd y cynghorydd yn gyfeillgar iawn ac yn gofyn sut gallent fy helpu a thrafodom y broblem.
Roeddwn hefyd yn teimlo fel fy mod angen cysylltu gyda rhywun arall i helpu gyda fy mhroblem ond gan nad oeddwn yn siŵr iawn am gysylltu nhw fy hun, roedd Meic yn hapus i'w cysylltu ar fy rhan. Roeddwn yn meddwl fod hyn yn gynorthwyol iawn ac roeddwn yn ddiolchgar iawn iddynt am wneud hynny i mi. Roedd yn amlwg eu bod nhw'n poeni am fy lles, sydd yn braf gwybod.
Roedd ganddynt awgrymiad am fy holl drafferthion a chefais god hefyd i barhau'r drafodaeth os oeddwn i'n cysylltu gyda nhw eto gyda thrafferthion am yr un broblem yn y dyfodol.
Roeddwn yn meddwl fod hyn yn ffordd wych i gael help gyda phroblemau gan nad oedd rhaid i mi siarad gyda rhywun wyneb yn wyneb, gan nad wyf yn dda iawn gyda phobl dwi ddim yn adnabod yn iawn/
Mae Meic yn wahanol i sefydliadau eraill dwi wedi clywed amdanynt gan eu bod nhw'n wasanaeth gwybodaeth ac eiriolaeth. Mae eiriolwr yn gwrando ar beth sydd gen ti i ddweud ac yn helpu ti i ddweud wrth bobl eraill beth rwyt ti eisiau, neu maent yn siarad gyda phobl eraill ar dy ran. Roeddwn i'n meddwl fod hyn yn wych ac roedd yn gynorthwyol iawn i fi gyda'r straen roeddwn yn ei ymladd.
Dyw'r problemau roeddwn yn eu cael ddim byd tebyg i sut oeddent cynt a dwi'n ddiolchgar iawn i Meic am fod yno a dwi'n gwybod os byddaf byth yn cael problem arall neu mae'r broblem yma yn gwaethygu eto ac yn cyrraedd y pwynt lle nad allaf ei ddatrys fy hun, gallaf fynd yn syth i Meic.
Siarad Gyda Meic.

