Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Roboceir

Postiwyd gan CLICportia o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 11/01/2010 am 09:28
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Addysg, Pobl, Technoleg

English version

Llwyddodd pobl ifanc i drawsnewid sgrap a’i droi yn ‘robocars’ ac yna ysgrifennwyd rap am eu creadigaethau rhyfeddol mewn prosiect a gynhaliwyd drwy Lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf.

Cyfarfu mwy na 80 o fechgyn ifanc yn lleoliad Valleys Kids ym Mhenygraig i rasio’r cerbydau model a adeiladwyd allan o ddeunyddiau sgrap.

Roedd y digwyddiad yn ddiweddglo i brosiect llythrennedd a gyllidwyd gan Basic Skills Cymru, lle bu’r bechgyn yn ymchwilio i geir a robotiaid yn llyfrgell yr ysgol, ac yn dylunio a gwneud y modelau yn ystod gweithdai a arweiniwyd gan gwmni addysg gwyddoniaeth a leolir yn Abertawe, XLWales.

Wedi i’r modelau gael eu hadeiladu, gweithiodd y bechgyn gyda’r rapiwr Jon Chase a’r cerddor Geraint Brown i ysgrifennu caneuon rap yn disgrifio eu creadigaethau.

Hwn oedd y prosiect diweddaraf yn y cynllun Darllen Miliwn o Eiriau Gyda’n Gilydd yng Nghymru a anelir at annog bechgyn yn eu harddegau i ddarllen.  Fe’i trefnir gan Lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf mewn partneriaeth gydag Adran Addysg yr Awdurdod.

Enillwyd Y Sialens Robocar gan The Killer, a adeiladwyd gan Connor a Rhys o Ysgol Gyfun Blaengwawr, Aberaman.

Meddai’r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cyng. Robert Bevan: “Mae ein Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cynnig ystod o gyfleoedd i bobl o bob oed fod yn greadigol drwy gydol y flwyddyn ac rwy’n falch fod y prosiect ieuenctid hwn wedi bod yn gymaint o lwyddiant!”

Gall fod yn aelod o holl lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf am ddim ac mae croeso i bawb sy’n byw neu yn gweithio o fewn y  fwrdeistref sirol i ymuno. Ceir wybodaeth pellach drwy ymweld â http://www.rhondda-cynon-taff.gov.uk/cy/hafan.aspx

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.