Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Prinder Coco I Ddod?

Postiwyd gan Ragnarok o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 16/12/2011 am 11:12
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Bwyd a Diod

  • coco

English version

Newyddion drwg i rai sy'n caru siocled, gan ei bod yn ymddangos fel bod cyflenwadau coco yn rhedeg allan, fydd yn golygu bod prisiau siocled yn codi cyn hir.

Yn ôl rhai gwyddonwyr gyda daint melys, rydym ni (ni fel y byd, nid ti a fi) efo prinder coco miliwn tunnell mewn llai na degawd.

Mae'r ffaith bod mwy o bobl yn defnyddio siocled yn golygu bydd rhaid i ffermwyr coco angen fferm maint yr Y Traeth Ifori i ymdopi gyda'r galw.

Yn siarad gyda The Express, dywedodd y prif siocledwr Prydeinig Angus Kennedy mai: "Rhan o'r broblem ydy fod y galw am siocled yn cynyddu yn Asia ble mae gwledydd fel Tsiena yn troi fwy tuag at chwaeth Orllewinol."

Os nad oes hwb i gyflenwadau coco, yna efallai bydd yn canlyn mewn heic prisiau gyda'r posibilrwydd o amnewidion i siocled sydd yn "toddi yn dy geg". Hynny, neu fod cwmnïau yn cysidro defnyddio llenwadau fel cnau i swmpo'r bariau.

Yn ôl ffynonellau, bydd cwmnïoedd fel Mars, Cadbury a Nestle yn dioddef, gyda'r siocledwr o Lundain Marc Demarquette yn proffwydo bydd, "Galaxy, Crème Eggs, a phob math o far siocled £1 yn beth y dyfodol."

Mae hyd yn oed rhagfynegiadau bydd siocled yn dod yn ffurf newydd o gafiar, gyda'r person arferol ddim yn gallu ei fforddio.

Fydd y rhagolwg yn newid ein proses meddwl? Fydd hyn yn gwneud i ni arafu ar faint o siocled rydym yn ei fwyta? Dim ond amser a ddengys yn ôl pob awgrym.

Ffynhonnell: Yahoo Lifestyle

Tudalennau Maetheg a Gweithgarwch Corfforol

DELWEDD: Happy Holidays gan Gaby Kaminsky

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.