PlayARK 2011
English Version
Mae'n haf (dwi'n meddwl) ac nid oes posib swingio polyn pabell wedi'i falu heb daro gŵyl gerddoriaeth. Ond faint sydd ar gael? Nifer fawr! Mae'r un peth yn wir am wyliau ffilm, iawn ychydig llai ond mae'n rhaid bod cannoedd a miloedd ohonynt.
Ond sawl gŵyl sydd ar gael sydd yn ymwneud â gemau? Mae gwerthiant gemau fideo yn fwy na gwerthiant cerddoriaeth a DVD's ac mae'r oriau sydd yn cael ei dreulio yn chwarae nhw yn hawdd yn fwy o amser na chwpl o dripiau i'r sinema, felly lle mae'r holl wyliau?
Mae thinkARK o Gaerdydd am ddatrys hyn. Yn ffres o lwyddiant eu prosiect PaperGirl, mae playARK yn cymryd y Ganolfan Gelfyddydau Chapter drosodd am ddau ddiwrnod (Gwener 30 Medi a Sadwrn 1 Hydref) gyda chyfres o gyflwyniadau, gweithdai, gemau ac amseroedd da.
Nid gemau fideo yn unig fydd hyn, ond gemau yn gyffredinol, fel gemau bwrdd, gemau retro a gemau corfforol. Bydd y trafodaethau yn canolbwyntio ar sut mae gemau yn llawer mwy nag adloniant yn unig, gallai ddefnyddio nhw yn addysgiadol ac mewn gosodiad busnes i daclo problemau anghymdeithasol.
Un o'r rhannau fwyaf cyffrous o playARK 2011 ydy ymddangosiad cyntaf everwake, gem ryngweithiol a threiddiol wedi'i osod yn strydoedd Canton. Yn gymysgedd o bosau, theatr, cynllwyn hunllefus, podcastiau a beth ymddangosai fel ychydig o redeg, mae everwake yn hollol unigryw. Edrycha ar yr hysbyslun uchod.
Mae tocynnau ar gyfer everwake yn £10 (£8 consesiwn) tra bydd y cyflwyniadau ar y dydd Gwener, gyda siaradwyr gwadd o'r tirlun digidol yn £30 (£15 consesiwn) sydd yn cynnwys cinio. Mae'r dydd Sadwrn yn ddiwrnod gemau ac mae'n rhad ac am ddim. Bydd y dydd yn cynnwys Bingo Pobl, Hela Cacennau a 'Ffrensi' Ciosg Ffôn ymysg nifer o gemau pwrpasol a newydd wedi'u dylunio gan bobl ar draws Cymru. Am restr lawn ac eglurhad o'r gemau, clicia yma. Hefyd ar y dydd bydd rhywun yn cael ei goroni’n Chwaraewr Retro y Flwyddyn (dyna ti rhywbeth i'r CV) a bydd datblygwyr gemau Cymraeg graddedig yn dangos y teitlau digidol fwyaf newydd.
Felly cer am y Chapter ar ddiwedd mis nesaf i amsugno'r holl gemau.
Newyddion » Categorïau » Gwyl
Newyddion » Categorïau» Technoleg

