Pêl-Rwyd Menter Iaith Abertawe
English version
Ar Nos Wener y 3ydd o Chwefror cafwyd gêm gyffrous a safonol ymysg chwaraewyr Clwb Pêl-rwyd Menter Iaith Abertawe a gr?p o oedolion a chwaraewyr profiadol a safonol.
Tri oedolyn a gapteiniodd y timau chwarae sef yr athrawes Addysg Gorfforol o G?yr a chapten y tîm melyn Sara Thomas, a chapteiniaid y tîm coch sef yr athrawes Cymraeg o Fryntawe Heledd Clarke a’r swyddog wraig weinyddol o Ysgol Gyfun G?yr Leanne Blackler.
Chwaraewyd gêm o 4 chwarter gyda pherfformiadau hyderus a champus yn ogystal â bod yn llawn medr a gwaith tîm da gan yr holl chwaraewyr.
Cafwyd saethu hyderus gan Rachel, Sara, Megan ac Ellis a chwarae canol y cwrt hwylus gan Ellie a Sara Thomas, Manon, Beth ac Eirian. Cafwyd saethu ac amddiffyn cryf gan Heledd Clarke a Leanne Blackler hefyd. 11-11 oedd y sgôr terfynol.
Nod y clwb yw cynnig cyfle i bobol ifanc i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd a dysgu sgiliau a chwarae gemau. Mae'r adborth a gafwyd gan rhai o rieni a phobol ifanc y clwb yn ategu fod y clwb yn cyrraedd yr amcanion yma ag yn llawn gwerth buddsoddiad y Gist Gymunedol a wnaeth rhoi grant hael i ganiatáu’r clwb i redeg.
Diolch o galon i'r oedolion wnaeth ymuno yn y gêm. Edrychwn ymlaen at y gêm nesaf yn erbyn Blwyddyn 8 G?yr ar Chwefror y 23ain ac yn erbyn tîm pêl-rwyd Dyffryn Amman ar Fawrth yr 8fed.

