Patrôl Moch Daear
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Erthygl Fwyaf Defnyddiol yng Ngwobrau CLIC 2011.
Gyda'r posibilrwydd o ddifa moch daear yn agosáu, es i gyfarfod gydag aelodau Grŵp Moch Ddaear Castell-nedd Port Talbot ar wyliadwriaeth nos a darganfod pam eu bod eisiau amddiffyn y chwilotwyr streipïog.
Cysylltais gyda Gerald James, cadeirydd y Grŵp Moch Daear leol, a chytunodd i fynd a fi ar wyliadwriaeth gyda'r grŵp i ddysgu mwy am yr anifeiliaid. Mae Mr James wedi bod yn ymglymedig â'r grŵp am dros 20 mlynedd, ac mae ei brwdfrydedd a'i brofiad yn amlwg.
Esboniodd fod y moch ddaear wedi storio braster yn barod ar adeg yma'r flwyddyn yn barod am y gaeaf, felly nid ydynt yn chwilota cymaint ag y maent yn yr haf – ond roedd cyfle go dda i ni weld rhai os nad oeddent yn sylweddoli arnom ni gyntaf.
Mae'r set – enw cartref mochyn daear – aethom iddo ym Margam yn bendant wedi'i guddio yn dda: cymerodd 10 munud i gerdded ato, gan gynnwys llawer o ddowcio dan ganghennau a dringo dros goed wedi disgyn cyn ei gyrraedd.
Gan fod yr anifeiliaid yn eithaf pwyllog o ddynion, roedd rhaid eistedd rhyw 30 troedfedd i ffwrdd o fynediad y twneli oedd wedi'u cydblethu â gwreiddiau'r coed. Swatiais ar flanced fechan yn y sbwriel dail a disgwyl yn amyneddgar.
Roedd y goedwig yn llonydd ac yn dawel gyda'r golau brith trwy'r canopi yn cael ei aflonyddu bob hyn a hyn gan ddeilen yn disgyn. Bob hyn a hyn byddwn yn meddwl fy mod yn clywed sŵn siffrwd ac felly'n tynnu'r ysbienddrych i fyny at fy wyneb yn sydyn mewn gobaith o weld mochyn daear yn ymddangos o dan y ddaear.
Ar ôl ryw awr cychwynnodd y golau wywo. Trwy sibrwd penderfynom roi diwedd arni am y noson a nesáu at y set am archwiliad mwy agos. Yn sydyn dyma David Ward, y swyddog Cimla, yn fflachio ei dortsh arnom o fynediad ymhellach i lawr y llethr – mochyn daear!
Es drwy'r dail tuag ato, ond yn anffodus ni welais y creadur cyn iddo ddartio yn ôl i mewn i'w dwll, wedi'i ddychryn gydag arogl dynion a'r golau tortsh.
Amcangyfrif fod mwy na 1,000 o foch daear yng Nghastell-nedd Port Talbot ac mae'r grŵp yn ceisio monitro nhw bob ychydig fisoedd i weld pa mor fywiog ydy set drwy chwilio am arwyddion fel ôl pawennau a gwallt moch daear.
Mae Mr Ward wedi dysgu amryw sgiliau tracio dros y flwyddyn ddiwethaf ers cychwyn efo'r grŵp. "Os wyt ti'n mynd allan ar ôl iddi fwrw eira, weithiau gallet ti ddarganfod setiau hollol newydd o'r olion maent yn ei adael," esboniodd wrth edrych ar farciau crafu ar foncyff coeden. Ond mae'r angen i ymchwilio setiau efo ochr arall hefyd oherwydd y digwyddiadau o faetio a maglu moch daear yn dal i ddigwydd.
Dywedodd Mr James: "Mae'n anodd iawn profi fod baetio moch ddaear wedi bod yn digwydd. Yn aml, yr unig ffordd gall erlyn rhywun ydy am fod eu cŵn efo wynebau wedi'u creithio yn ddrwg o ymladd gyda moch daear."
Os bydd y difa arfaethedig yn digwydd, byddai'n targedu moch daear sydd yn byw gerllaw tir fferm ble mae'r ffaith eu bod yn gallu cario'r afiechyd anadlol tiwberciwlosis (TB) wedi cael nhw i mewn i drafferthion.
Mae'r llefarydd ac is-lywydd Undeb Ffermwyr Cymru, Brian Walters, wedi dweud yn y gorffennol: "Mae ffermwyr gwartheg yn cael eu difetha gan (TB), ac yn cael costau ychwanegol anferthol ac yn gweld eu busnesau yn cael eu cloi i lawr.
"Ond eto rydym yn ymddangos i fod yn oedi dros y rhwystr mwyaf i ddifa clefyd, sef y presenoldeb enfawr o TB mewn moch daear."
Ond mae'r Ymddiriedolaeth Moch Daear yn dadlau fod anifeiliaid eraill fel ceirw yn lledaenu TB i wartheg hefyd ac yn dweud fod y gost o weithredu'r difa yn gorbwyso'r gwahaniaeth mae'n ei wneud yn nhermau'r nifer o wartheg sydd yn cael eu hachub.
Mae hefyd barn wahanol am y ffordd fwyaf hynaws o ladd unrhyw fochyn daear yn yr ardaloedd difa penodedig. Yn lle hyn, mae'r Ymddiriedolaeth yn cefnogi brechiad TB fel dewis arall, er bod hyn hefyd efo cost.
Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar y difa moch daear yng Nghymru yng ngwanwyn 2012.
Mae Grŵp Moch Daear Castell-nedd Port Talbot efo mwy na 60 o aelodau, ond nid yw pob un o'r rhain yn weithgar yn archwilio'r setiau ac yn cynnig cymorth mewn ffyrdd eraill.
Mae rhai aelodau yn helpu achub moch daear wedi'u hanafu ac yn cymryd rhan mewn nyrsio'r achosion llai difrifol yn ôl i iechyd da, tra mae eraill yn cyfrannu rhodd.
Efallai nad wyf wedi llwyddo gweld mochyn daear fy hun, ond fe wnes i rannu yng nghynnwrf aelodau eraill o'r grŵp – mae'n hawdd gweld apêl y creaduriaid a pam eu bod wedi cae eu dewis fel logo'r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt Prydain.
Os byddai unrhyw un yn hoffi bod yn rhan o'r grŵp moch daear yna gall gysylltu â nhw drwy e-bost: npt-badger@live.co.uk
Gwybodaeth – Amgylchedd – Planhigion ac Anifeiliaid – Coetiroedd a Bywyd Gwyllt
Gwybodaeth – Amgylchedd – Cadwraeth a'r Amgylchedd – Ffermio ac Amaethyddiaeth
DELWEDD: Badger strip tail gan Andreas-photography

