Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

NadoCLIC #13

Postiwyd gan ThingsThatAnnoyMe o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 13/12/2011 am 13:00
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Cerddoriaeth, Yn Gymraeg

  • calendar

English version

Croeso i ffenestr #13 o'r Calendr Adfent NadoCLICOs hoffet ffenestr dy hun i ddangos dy stwff Nadolig (neu dylai hynny fod yn stwffin!!!) a chael cyfle i ennill Nintendo 3DS yna e-bostia sam@cliconline.org.uk cyn gynted â phosib.

Os wyt ti eisiau dod yn gyfoethog, ysgrifenna gân Nadolig: bob blwyddyn bydd yn cael ei chwarae drosodd a throsodd ymhob siop yn y wlad; bydd canwyr carolau yn ei sgrechian yng nghlustiau pobl; bydd ar drac sain llwyth o ffilmiau Nadolig ofnadwy… ni fydd posib dianc oddi wrtho, a bydd hynny yn gwneud miliynau i ti.

Y broblem ydy fod pawb efo'r un syniad, felly am bob cân Nadolig da sydd yn dod mae yna o leiaf cant o rai ofnadwy. Nawr pawb i gasglu o gwmpas y goeden, plant, heddiw rydym am ddathlu rhai o'r caneuon Nadolig gwaethaf erioed i ymdreiddio ein clustiau.

Fy 10 Cân Nadolig Gwaethaf

(Nid yw'r rhain mewn unrhyw drefn; maent i gyd mor ddrwg â'i gilydd. Er dwi wedi cadw'r ddau fwyaf digalon tan ddiwethaf, gan fydd rhai darllenwyr sydd efallai yn fwy sensitif yn hoffi osgoi'r rheini gan eu bod yn delio gyda phynciau eithaf trwm)

10)  The Cheeky Girls: Have A Cheeky Christmas

Dwi eisiau dweud "mae'n cychwyn yn iawn, ond yn gwaethygu yn raddol" ond byddai hanner cyntaf y frawddeg honno yn gelwydd. Gyda geiriau mor ffraeth â "ooh baby baby, underneath the mistletoe, ooh baby baby, very sexy in da snow" a gyda diweddglo sydd yn atgoffaol o'r gân breuddwyd arswydus o A Nightmare On Elm Street. Dwi'n ddiolchgar am fyth bythoedd nad yw'r gân yma erioed wedi gwneud hanes fel clasur Nadolig cwlt.

9) Ronan Keating: Fairytale Of New York

I gychwyn roeddwn am roi'r fersiwn gwreiddiol Pogues yma gan nad wyf yn deall sut gall unrhyw un deimlo'n hapus ac yn elusengar ar ôl gwrando ar gân gyda llinellau fel "You scumbag, you maggot, you cheap, lousy [Dwi ddim hyd yn oed am deipio'r gair nesaf gan fod i'n meddwl ei fod yn homoffobig], happy Christmas your arse, I pray God it's our last." Mae'n drysu fi yn llwyr. Ond dwi yn cyfaddef fod y gân yn trosglwyddo ei goegni mewn ffordd brydferth ac felly roeddwn yn betrusgar i'w ychwanegu i'r rhestr. Roedd hyn cyn i mi ddysgu fod Ronan Keating wedi gwneud fersiwn. Awgrymir amddiffynwyr clustiau.

8) Band Aid 20: Do They Know It's Christmas?

Wrth siarad am fersiynau gwahanol, roedd rhaid i hwn gael ei grybwyll. Ti'n gwybod pan ti'n cael cân dda ac yn dod a chriw o gerddorion talentog i mewn i'w drawsnewid o 'da' i 'chwedlonol'? Wel mae hwn yn groes i hynny. Dwi'n credu mai'r term cywir yn fan hyn fyddai "lladd". Pan ti'n meddwl nad all pethau fynd dim gwaeth, mae Dizzee Rascal yn ymddangos. O am lawenydd.

7) Bob Dylan: It Must Be Santa

Y cywerth cerddorol o dy daid, sydd fel arfer yn ddyn parchus iawn, yn meddwi, yn rhedeg o gwmpas yn noeth, yna'n disgyn i mewn i'r goeden Nadolig.

6) Justin Bieber: Mistletoe

Mae Justin Bieber yn serenadu merch gan ei galw'n "Shorty" drosodd a throsodd (da iawn ti am wneud i ferch poeni am ei thaldra, Justin). Ac fel petai hynny ddim yn gwneud iddi deimlo'n ddigon annigonol, mae'n fflyrtio gyda merch arall tra mae Shorty yn eistedd reit o'i flaen. Y diwrnod wedyn rydym yn gweld Shorty yn agor ei cherdyn Nadolig, ac ynddo mae wedi ysgrifennu "I have been lurking outside your window all night." Nid yw Bieber y person gorau i ofyn am gyngor ar ferched!

 

5) Gayla Peevey: I Want a Hippopotamus For Christmas

Fedrai ddim penderfynu os ydy'r gân yma yn ofnadwy neu'n wych. Pa bynnag un, ta waeth, mae'n sownd yn dy ben di nawr hefyd – mwahaa!

4) Beach Boys: Santa's Beard

Fedri di wneud cân gyfan am farf?

Na. Mae'r gân yma yn profi hynny.

3) Destiny's Child: 8 Days Of Christmas

Mae popeth am y fideo yma yn sgrechian DIFLASTOD: y ddawns 'iâr oedd ddim yn frwdfrydig iawn', yr olwg syn, aelodau’r gynulleidfa yn disgyn i gysgu. Dwi'n meddwl fod dau draean diwethaf y gân yn ddim ond y cytgan yn cael ei ailadrodd yn ddi-ben-draw, er mae'n bosib mai fy ymennydd i oedd methu prosesu'r lefel llwyr o ofnadwy pasio'r pwynt hwnnw. Bydd y gân yma yn achosi chi i ddisgyn i gysgu gyda chyffro.

2) John Denver: Please Daddy (Don't Get Drunk This Christmas)

Gan fod dim yr un mor llon â dyn yn canu am fachgen yn erfyn ar ei dad alcoholig i beidio cam-drin ei fam ar Ddiwrnod Nadolig. YEI. AM GÂN GALONNOG.

1) New Song: Christmas Shoes

Fy enwebiad am y Gân Nadolig Mwyaf Digalon Mewn Hanes Erioed yn mynd i'r band roc Cristnogol New Song (ia, dyna ydy eu henw go iawn) am y trallod anferthol yma. Gad i mi grynhoi'r gân i ti fel nad oes rhaid i ti fynd drwy'r boen o wylio'r fideo: mae dyn yn sefyll mewn llinell mewn siop ar Noswyl Nadolig, ac nid yw'n teimlo'n Nadoligaidd iawn. Mae'n edrych i fyny ac yn gweld bachgen yn gafael mewn esgidiau. Mae'r bachgen yn troi o gwmpas ac yn dweud "Dwi ddim efo digon o arian. Mae mam yn mynd i farw o gancr. Wnewch chi brynu’r esgidiau yma?" Mae ysbryd Nadolig yn gorlethu'r dyn ac mae'n prynu’r esgidiau, yna mae'n mynd adref ac yn cael Nadolig hyfryd. Dyw'r stori byth yn esbonio os oedd y bachgen yn dweud celwydd er mwyn cael yr esgidiau neu os oedd ganddo fam yn marw go iawn; yn lle hyn mae'n canolbwyntio ar ba mor falch ydy'r dyn ei fod wedi cyfarfod y bachgen gan iddo wneud iddo deimlo'n Nadoligaidd.

Nawr, dwi ddim yn gwybod amdanat ti, ond fy ymateb i i'r gân yma oedd rhywbeth yn debyg i hyn: "Pwy ddiawl sydd yn ysgrifennu cân Nadolig am salwch marwol?" "Pa fath o ffrîc sâl sydd yn ddiolchgar fod mam plentyn yn marw am ei fod wedi gwneud iddo deimlo'n Nadoligaidd?" a "Dwi'n meddwl dwi am chwydu."

Pa ganeuon Nadolig wyt ti'n casáu? Gad i ni wybod yn y sylwadau isod.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.