Myfyrdod Ar Drais
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Erthygl Fwyaf Defnyddiol yng Ngwobrau CLIC 2011.
Mae hwn yn ôl ar y dudalen flaen, achos mae'n rhan o'r ymgylch Dim Ond Un Mae'n Cymryd.
Mae trais ar y strydoedd yn broblem barhaol mewn cymdeithas.
Gall effeithio unrhyw un, er gwaethaf ei oed, hil, rhyw, statws neu ble rwyt ti'n byw.
Ar ôl dioddef fy hun mae'r profiad wedi cael newid difrifol i'm mhersonoliaeth a'r dewisiadau dwi'n ei wneud mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
Roeddwn i yn 18 oed pan roeddwn yn cerdded adref un noson oer o Dachwedd ar ôl bod allan gyda fy ffrindiau. Roedd hi'n awyr glir a phenderfynais eistedd ar fainc y parc i ddal fy ngwynt.
Yn sydyn cefais fy ymyrryd gan waeddi yn dod o'r llwybr oedd yn cefnu ar y parc, felly cychwynnais gerdded i ffwrdd tuag at y brif ffordd fel y gallwn weld ble roeddwn yn mynd ac i weld os oedd rhywun yn agosáu ataf.
Pan gyrhaeddais y brif ffordd a chychwyn cerdded i ffwrdd clywais lais yn gwaeddi "stop" felly cychwynnais gerdded yn sydyn ac yna fe glywais eto: "stop", ond erbyn hyn roedd yn fwy ymosodol, felly mewn petruster stopiais gan feddwl mai'r heddlu oedd yno.
Troais o gwmpas i weld y dyn yma oedd yn fwy na fi gyda menig lledr yn rhedeg tuag ataf. Gan weld y menig roeddwn yn meddwl mai'r heddlu oedd o, felly stopiais.
Cyn i mi ddeall beth oedd yn digwydd, roeddwn mewn ffrae gyda'r dyn yma ac ni allwn ddeall pam fyddai'n taro rhywun oedd cymaint iau nag ef.
Yn cymryd yr ergyd o'i ddyrnau, ceisiais feddwl yn ôl at hyfforddiant celf ymladd roeddwn wedi'i gael cynt. Roeddwn yn 13 pan wnes i hynny, ond sylwais nad oeddwn i wedi hyfforddi yn y gelf o'i ddefnyddio mewn ffrae go iawn.
Parhaodd i ymosod arnaf heb atgno o gwbl ac roeddwn i yn ceisio taenu ei ffyrnigrwydd drwy ofyn iddo "beth ydw i wedi gwneud?" ond nid oedd yn gweithio.
O'r diwedd rhoddais gorau i drio amddiffyn fy hun a derbyn fy mod i yn mynd i farw. Teimlai fel munudau, ond mewn gwirionedd eiliadau oedd mai'n debyg, pan benderfynais nad oeddwn am adael i fi fy hun farw, ac os oeddwn i am gael allan o'r sefyllfa yma roedd rhaid i mi ymladd yn ôl.
Roedd fy adrenalin ar y pwynt yma ar ei uchaf a sylweddolais nad oedd dim gen i i'w golli yn nhermau balchder. Roeddwn i'n meddwl fod gen i fy mywyd i ymladd amdano felly roedd rhaid i mi wneud beth allwn i osgoi'r sefyllfa.
Felly ceisiais daro fo digon i redeg i ffwrdd ond doedd dim i weld yn cael effaith. Yn y diwedd lwyddodd i gael fi ar y llawr a phinio fi yn erbyn y ffens a pharhau i ymosod arnaf. Rhoddais fy nwylo i fyny i geisio amddiffyn fy hun. Yna brathodd fy mys felly defnyddiais fy nghoesau i'w wthio i ffwrdd a chreu digon o le i mi allu dianc.
Yna cychwynnais redeg am gartref, heb ddechrau deall beth oedd newydd ddigwydd.
Roedd amser yn symud mor sydyn oherwydd yr adrenalin roedd fy nghorff yn creu. Wrth i mi gyrraedd y llwybr ger fy nghartref gallwn deimlo'r gwaed yn diferu i lawr fy wyneb. Doeddwn i ddim yn gwybod pa mor ddrwg oedd fy anafiadau felly roeddwn i'n poeni wrth barhau i redeg adref.
Ar ôl derbyn sylw meddygol a siarad gyda'r heddlu am beth ddigwyddodd, dychwelais adref a gwylio'r teledu i geisio ymlacio. O'r diwedd crynhois fy meddyliau a mynd am y gwely i gychwyn gwella.
Ar ôl pythefnos sylweddolais fod y profiad wedi newid fi. Doeddwn i ddim yn teimlo fel mynd allan ac i gymdeithasu, roeddwn eisiau bod ar ben fy hun. Doeddwn i ddim yn teimlo fel bwyta.
Am gyfnod yn fy mywyd roeddwn yn teimlo fel fy mod wedi colli gafael arno. Roeddwn ofn mynd allan rhag ofn i mi gyfarfod pobl yr un oed a finnau oedd yn cyfarfod mewn llefydd penodol gan nad oeddwn eisiau cael i mewn i wrthdrawiad neu yn waeth, ffrae.
Sylweddolais fod fy hyder yn isel iawn ac roedd angen i mi gael hwn yn ôl ond doeddwn i ddim yn gwybod sut. Yna penderfynais fynd yn ôl i'r dosbarth celf ymladd lle gychwynnais hyfforddiant pan yn 13 oed.
Hyd heddiw dwi dal wrthi, trwy fynd yn ôl dwi wedi cyfarfod pobl dda, wedi ail adeiladu fy hyder ac wedi cael cyfleoedd newydd.
Tudalennau Dioddefwyr Trosedd
Siarad gyda Meic

