Llefydd Gwag I Chi
English version
Maesomewhereto___ yn brosiect sydd yn helpu pobl ifanc 16-25 yng Nghymru ac yn genedlaethol i ddarganfod llefydd gwag anhygoel i wneud y pethau maent yn caru mewn chwaraeon, diwylliant a'r celfyddydau.
Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan Livity, mewn partneriaeth â Sianel 4, ac yn cael ei ariannu gan yr Legacy Trust UK, yn creu effaith parhaol Gemau Olympaidd a Paralympaidd Llundain 2012 gan ariannu syniadau a thalent leol i ysbrydoli creadigrwydd dros Brydain.
Gyda dros 500 o lefydd gwag ar y wefan, o stordai i gaeau pêl droed, stiwdios dawns i swyddfeydd / ystafelloedd cyfarfod, gorsafoedd radio a gwefannau i gael eu clywed neu eu cyhoeddi arnynt – mae yna le i bob nwyd, os wyt ti i mewn i ddawns, cerddoriaeth, rhedeg rhydd, celf, ffotograffiaeth, chwaraeon ac ati.
Mae'r prosiect diweddaraf yn cydweithio gyda The Graffiti Life Company, gan agor lle gwag anhygoel tu allan i'r O2 yn Llundain ar gyfer 18 o artistiaid ifanc i gael arddangos eu gwaith.
Gyda chefnogaeth gan AEG Europe, Asiantaeth Datblygu Llundain, a'r 02 Think Big, bydd yr arddangosfa syfrdanol hon yn rhedeg tan ddydd Mawrth 13 Mawrth, felly os wyt ti yn y ddinas, cer draw i'w weld! Gwybodaeth bellach yma.
I'r rhai ohonoch yng Nghymru, dywedwch wrth somewhereto___ pa le gwag rydych angen a chysylltwch gyda'ch cydlynydd rhanbarthol ar www.somewhereto.com/regions/wales.
Y bwriad yw helpu wella bywydau miloedd o bobl ifanc ym Mhrydain a chreu miloedd o straeon llwyddiant, heddiw ac yn y dyfodol.
Tudalennau Chwaraeon a Hamdden

