Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Fyddai E’ Yn Goddef Hyn? Angie Kruger Yn Ymateb

Postiwyd gan Sara H. Roberts o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 16/08/2010 am 13:49
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Hanes, Cerddoriaeth, Pobl, Materion Cyfoes

  • richey

English Version

Os gwelwch yn dda sgrolia i lawr i waelod yr erthygl hon am ymateb anghynhwysol gan destun y darn, Angiau Kruger.
 
Mae pymtheg mlynedd wedi mynd heibio ers diflaniad cyfansoddwr a gitarydd y Manic Street Preachers, Richey Edwards.

Mae’n berson sydd wedi bod ar goll ers Chwefror 1995, a daethpwyd o hyd i’w gar yng Ngorsaf Gwasanaethau Aust yn edrych dros Hen Bont Hafren. Does neb wedi ei weld na chlywed amdano ers hynny.

Er gwaetha natur amwys y ffordd y diflannodd, mae ei gyfeiriadau droeon at hunanladdiad mewn cyfweliadau a chaneuon yn arwain llawer i ddod at y casgliad digalon amlwg.

Ym mis Tachwedd 2008, datganodd y teulu Edwards ei fod yn gyfreithiol farw ond er hynny nid ydynt wedi rhoi'r gorau i obeithio darganfod eu hanwylyn sydd ar goll yn fyw.

Pan ymunodd y Manic Street Preachers â’r prif lif cerddorol yn yr 1990au cynnar, daethpwyd i gysylltu eu henw â llythrennedd a deallusrwydd arbennig, a hynny i raddau oherwydd deallusrwydd a syniadau dwfn Edwards (a lysenwyd yn Weinidog Propaganda.)

Bu i’w ymdrechion i ymdrin â chwestiynau dirfodol y byd ar ôl y rhyfel oer, ynghyd â chyfweliadau a geiriau yn llawn gwybodaeth wleidyddol a hanesyddol droi ymlaen cenhedlaeth o gefnogwyr cerddoriaeth tuag at wrth-ddiwylliant o nifer o feirdd, dramodwyr, athronwyr ac artistiaid, gan gynnwys Guy Debord, Arthur Rimbaud a Yukio Mishima.

Cyn ei ddiflaniad, casglodd Edwards yr hyn a ystyrid ar y pryd yn ddilynwyr ffanatig, a oedd wedi eu swyno efo’i garisma a’i allu i leisio’r arucheledd trasig. Bob mis Chwefror gwelir niferoedd o’i gefnogwyr mwyaf brwd yn ymweld â Phont Hafren i adael teyrngedau blodeuol a chardiau coffa.

Math arall o deyrnged barhaol fu’r effaith y mae Richey wedi ei gael ar artistiaid eraill, nid yn lleiaf ei ddylanwad uniongyrchol ar ysgrifenwyr ffuglen, fel llyfr Emma Forrest yn 1998, Namedropper a Richard: A Novel, sydd ar fin ymddangos gan Ben Myers. Mae’n ddigon dweud bod pob un o’i gefnogwyr wedi dod o hyd i’w ffordd eu hunain o ddeall neu o leiaf ddelio â’i golli.

Ond bum mlynedd ar ôl ei ddiflaniad dirgel, ychwanegwyd pennod newydd diddorol at y fytholeg o amgylch Richey a’i ddiflaniad.

Angie Kruger

Ym mis Ionawr 2000, ymwelwyd ag athrawes celfyddydau milwrol o Loegr o’r enw Angie Kruger gan ysbryd wrth waelod y gwely. Dywedodd: “Gofynnodd dyn ifanc mewn cot ledr gyda’i ddwylo yn ei bocedi, i mi fynd at Bont Hafren ar y cyntaf o Chwefror i osod torch o flodau iddo. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd ers hynny.”

Daeth y cyhoedd i wybod am stori Kruger a’r berthynas honedig gyda’r dyn ifanc hwnnw i’r amlwg am y tro cyntaf drwy’r rhwydweithiau o’r rhai hynny sy’n ymwneud â’r seicig a’r paranormal.

Ers hynny, mae hi, gyda’r ddrychiolaeth (sy’n cael ei alw’n dywysydd ysbrydol iddi), wedi teithio’r byd yn creu gyrfa fel un o’r nifer cynyddol o gyfryngau llesmair sy’n cynnig golwg i gynulleidfaoedd ar y profiad o fyw ar ôl marwolaeth.

Yn 2006 cyhoeddodd Kruger lyfr byr am ei phrofiadau – Diary Of A Trance Medium. Ysgrifennwyd y llyfr ar y cyd gyda’i thywysydd ysbrydol, ‘Richard’.  Mae’r clawr blaen yn dangos dyn ifanc sy’n debyg i ffotograff o Richey Edwards a gymerwyd ychydig cyn ei ddiflaniad.

Roedd cyfathrebu byr trwy e-bost gyda Kruger yn ddigon i beri i mi ddod i’r casgliad mai’r ‘Richard’ a oedd yn cael ei sianelu oedd yr honedig gitarydd coll, a oedd wedi ei dewis hi fel y porth byw yr oedd ef yn ceisio ailsefydlu cyswllt â’r byd trwyddi.

Roedd Richey yn ôl, ac yn ôl Kruger, braidd yn flin gyda chyfeiriad cerddorol meddal newydd ei gyn cyfeillion yn y band.

Deuthum i ar draws Kruger yn 2008, drwy’r blog Living with Schizoid Affective Disorder, disgrifiad sensitif wedi’i ysgrifennu’n dda o brofiad un ferch gyda’r cyflwr a oedd wedi’i ddiagnosio, gan un o gefnogwyr ifanc y Manic Street Preachers, Kelley Wise. Roedd un cofnod yn ymdrin â sgil effeithiau ei meddyginiaethau, a gwelwyd hi’n cyffesu cael gweld rhithwelediad o ymweliad gan ysbryd ei harwr, Richey Edwards.

Dyma pryd y daeth Angie Kruger yn bresennol ar y we, a sicrhaodd Kelley nad rhithwelediad oedd y digwyddiad o gwbl. Ymwelwyd â Kruger ei hun ac roedd wedi ffurfio perthynas gydag Edwards o’r ochr arall i’r trothwy meidrol.

Efallai bod rhai amheuwyr yn meddwl tybed onid oedd Kruger wedi targedu marchnad oedd yno’n barod. Ceisiodd barn amheuwr cynharach greu stereoteip o gefnogwyr Richey fel rhai oedd yn hawdd awgrymu pethau iddynt, gyda newyddiadurwyr yn creu ‘Cwlt Richey’ yn seiliedig ar y syniad fod mwyafrif y cefnogwyr yn ymddangos fel pe baent yn ddisgyblion i bob un o eiriau a gweithredoedd Richey (oedd yn aml yn hunan dinistriol). Dilynais ddolen yr oedd Kruger wedi ei gadael ar fwrdd sylwadau’r blog i ddarganfod ei gwefan gyda’r teitl diddorol, www.angandrich.co.uk.

Mae’r safle, a drefnir gan Kruger (a ‘Richard’) yn rhoi manylion am ddechreuad ei phartneriaeth gydag Edwards – sy’n wahanol i’r fersiwn y mae Kruger yn ei gynnig yn ddiweddarach. Mae Edwards yn rhoi golwg adolygol o’r ‘ochr arall’ (mae’n debyg ei fod yn well yn awr ac yn gofidio am ei ymddygiad negyddol ar y Ddaear) ac mae yna dudalen yn dangos tatŵs Kruger i'r Manic sydd ar goll.

Y syndod mwyaf oedd adran am brynu CDs a llyfrau wedi eu recordio a’u hysgrifennu gan Kruger a’i thywysydd ysbrydol honedig, gyda hyd yn oed cyfle i dderbyn e-bost yn sianelu ‘Richard’ yn syth i’ch blwch e-bost am £2.50 yr ateb.

Ond, a barnu’n unig yn ôl ei gwefan, efallai bydd rhai yn colli’r cysylltiad yn llwyr. Yn wir, mae amwyster gofalus Kruger yn ymddangos fel pe bai’n dymuno osgoi cyfeiriad penodol at y band. A barnu o’r hyn sydd wedi’i eirio’n ofalus ganddi a’r defnydd o ddelweddau, mae hi yn anuniongyrchol gyda’i chyfeiriadau at Richey Edwards - gan ddangos efallai fwriad i osgoi cyhuddiadau o ymddygiad enllibus/athrodus gan berthnasau sy’n dal yn fyw.

Eto i’r rhai sy’n barod i dderbyn y cliwiau ac yn barod i ddatgloi cod ei chyfrinach gyhoeddus, pwynt gwerthu unigryw Kruger yw ei gallu i sianelu Richard James Edwards o’r band o’r Coed Duon, y Manic Street Preachers.

Cyfarfod â Kruger

Dangosodd hysbyseb ar wefan Kruger bod y Guiding Light Centre (canolfan hyfforddi ar gyfer cyfryngwyr a phobl seicig yn Y Bari) yn cynnig cyfle i weld ‘Ange a Rich’ ar Fehefin 12fed. Roedd tocyn £5 yn cynnig 40 munud yng nghwmni’r ddeuawd, a’r cyfle i ofyn cwestiynau i Kruger o flaen cynulleidfa.

Wrth gyrraedd y lleoliad yn fuan ar ôl yr eisteddiad 2yh, fe’m cyfarchwyd gan gynulleidfa ganolig ei maint yn cynnwys yr henoed yn bennaf, yn sefyll yn sgwrsio a’i gilydd ar lawr y siop. Roedd yn bosibl adnabod Kruger ar unwaith o’r ffotograffau ar-lein a oedd yn llenwi ei gwefan, ac roedd hi’n gwisgo top print llewpard, trowsus combat, a menyg duon, o dan steil gwallt wedi’i liwio’n ddu.

Os oedd yna unrhyw amheuaeth am bwy yr oedd yn ei ddynwared, doedd ond angen i ti edrych ar yr union replica o datw rhosyn Richey a oedd i’w weld ar ei chyhyr deuben chwith.

Wrth i’r amser ddechrau agosáu, anfonwyd y gynulleidfa i mewn i ystafell fach a chlos o dan lawr y siop. Bu’n rhaid aros am ychydig cyn i aelod benywaidd canol oed o’r staff gyflwyno “Angie a Rich” i’r gynulleidfa ddisgwylgar.

Yna cerddodd Kruger i mewn ac i ganol y llwyfan, gan gyfarch y gynulleidfa yn gynnes ac egluro ei sioe lwyfan gyda chymhariaeth (gawslyd) o ffilm:

“Os ydych chi erioed wedi gweld y ffilm Ghost gyda Whoopi Goldberg, y darn lle mae’r dyn tew sydd wedi marw yn neidio i mewn iddi i gyfathrebu â’r byw? “Dyna fo fwy neu lai.” Deall pethau hyd yma.

Yna aeth Kruger ymlaen i gynghori’r gynulleidfa fod Richard yn wych am ateb cwestiynau am: “Llwybrau bywyd, llwybrau ysbrydol a phethau heriol fel bywyd ar blanedau eraill... ychydig fel E.T.” Yna gwahoddodd gwestiynau a oedd yn gallu bod yn groes i’r hyn oedd ganddi hi i’w ddweud, ond nid cyn atgoffa’r gynulleidfa am ei harbenigedd yn y celfyddydau milwrol!

Y ‘Seance’

Gan ddechrau gyda chau’r llygaid, aeth Kruger i mewn i drwmgwsg dwfn, ac o fewn ychydig o eiliadau dychwelodd y Manic oedd ar goll i diriogaeth ei gartref yn Nhe Cymru, gydag acen y Rhondda newydd a oedd yn rhyfedd o ansefydlog.

Dechreuodd ‘Richard’ y gweithgareddau drwy ddweud wrth y gynulleidfa y byddai fel arfer yn dechrau’r sioe drwy siarad yn Gymraeg, er yma yn ei famwlad ‘nid oedd yn teimlo fod rhaid iddo.’

Dyma’r cyntaf o lawer o ddatganiadau od, oherwydd wrth ymchwilio i Kruger yn y gorffennol roeddwn wedi ei gweld yn dechrau sioe yn Awstralia gyda phytiau o ychydig o Gymraeg sylfaenol iawn. Ond eto yma yn Nhe Cymru - lle byddai rhywun yn tybio oedd y lle mwyaf priodol i ddefnyddio ei Chymraeg sylfaenol iawn - doedd hi ddim yn gwneud hynny.  Mwy od eto oedd meddwl am Richey Edwards yn cofleidio’r iaith Gymraeg yn sydyn iawn ar ôl ei gwrthod am oes.

Yna gwahoddwyd y gynulleidfa gan aelod benywaidd o’r staff i godi eu dwylo gydag unrhyw gwestiynau i Richard. Penderfynais neidio i mewn yn gyntaf gyda chwestiwn yn deillio o’i geiriau blaenorol.

“Fel siaradwr Cymraeg, hoffwn wybod faint o Gymraeg rydych yn ei wybod. Pe bawn yn gofyn rhywbeth syml i chi fel...” Yna dilynais ymlaen yn y Gymraeg drwy ofyn – “I ba ysgol yr est ti?”

Dechreuodd llygaid Kruger fflicran ar agor ychydig wrth iddi ateb yn Saesneg: “Ym, i ba ysgol es i? Dydw i ddim yn mynd i drio dweud ym mha ysgol yr oeddwn i, ond yr ysgol fyddai... ym... Wel, roedd hynny oesoedd yn ôl. Rwy’n trio meddwl am enw’r lle. Alla’ i ddim cofio enw’r ysgol oherwydd mae’n teimlo fel amser mor hir yn ôl. Ond mae fy hynafiaid yn dysgu mwy o’r iaith i mi i fyny yma ar hyn o bryd...”

Yna nodiodd Kruger tuag at yr aelod staff – a oedd bellach yn chwarae meistr y seremoni – yn barod i ateb y cwestiwn gan y llaw nesaf i fyny. Cafodd unrhyw ymdrechion pellach a wneuthum i’w holi eu hosgoi. Mae’n debyg ei bod yn tybio fy mod yn gallu creu trafferth iddi.

Ac am weddill y deugain munud bu cyfraniad y gynulleidfa yn saff o fewn y ffiniau a awgrymwyd ganddi hi. Roedd cwestiynau agored am lwybrau gyrfa, tywyswyr ysbrydol a ffrindiau wedi marw yn hapus yn y byd a ddaw i gyd yn rhoi cyfle iddi addasu ei hatebion heb iddi ofni cael ei gwrthwynebu.

Negeseuon Cymysg

Yn anffodus, defnyddiodd Kruger lawer o amser yn loetran hyd at ddeng munud ar y cwestiynau llai anodd hyn, a oedd o bosib yn ei chadw o fewn ei pharth cysurus.

Weithiau yr oedd hi mor gysurus fel byddai’n colli ei hacen newydd yn gyfan gwbl. Pan gyflwynai rywbeth penodol o’r tu hwnt, roedd ei chyfradd llwyddiant i gyflwyno gwybodaeth y gellid ei hadnabod gan ei holwyr yn ymddangos yn is na’r disgwyl.

“Oedd gan eich meddyg got wen?” “Nac oedd” “Mae’n ddrwg gen i, rwy’n dioddef o amnesia heddiw”.

“Rwy’n gweld ysbryd milwr o’ch cwmpas. Oedd yna unrhyw filwyr yn eich teulu yn y gorffennol neu’r presennol? Ydy Dunkirk yn canu cloch?” “Nac ydy.”

Materion eraill y cyfeiriwyd atynt yn y sioe pedwar deg munud oedd chakras, tywyswyr i ryfelwyr yr Indiaid Cochion a’r sicrwydd fod gan anifeiliaid anwes pobl fywyd arall hefyd. I rywun oedd yn gyfarwydd â diddordebau Richey Edwards cyn diflannu, roedd y newid cyfeiriad hwn yn syndod.

Roedd ei synwyrusrwydd, a’i lefel gwybodaeth dybiedig yn ymddangos fel pe bai yn gorgyffwrdd gyda gwybodaeth Kruger. A oedd hi’n hidlo ei ebychiadau i weddu i’w hagenda hi? Neu efallai bod ei fersiwn hi o bersona Edwards yn gostwng ei ddeallusrwydd enwog ef i lefel yr oedd hi ei hun yn gallu delio ag ef yn gyfforddus?

Mae diddordebau llenyddol Richey ymhell y tu hwnt i gyfeiriadau hygyrch Kruger, oherwydd roedd ei hystod ddeallusol yn gymharol gyfyngedig a bron yn dibynnu’n llwyr ar ddiwylliant ffilmiau: “Mae fel pe bai’n dod o’r Hen Roeg. Mae ganddo helmed Caerdroia fel yn y ffilm, Troy.”

Drwy gydol y sioe, dibynnai Kruger yn drwm hefyd ar dechneg seicig a elwir yn Effaith Barnum , lle mae’r clairvoyant yn defnyddio cyffredinoliadau sylfaenol iawn wrth aelodau o’r gynulleidfa: “Rydych yn hoffi cerddoriaeth”, “Rydech yn tueddu i fod yn orfeirniadol ohonoch chi eich hun”, datganiadau y gallai bron pob aelod o’r gynulleidfa gysylltu â nhw - ac yn frawychus yr oeddent yn ymddangos fel pe baent yn credu’r cyfan.

I lawer o’r gynulleidfa ym mlynyddoedd olaf eu bywydau, roedd yn ymddangos fel pe bai Kruger yn cynnig golau o fath iddynt, gobaith a chysur trwy eiriau a theimladau am yr ochr arall. Nid yw hyn yn rhywbeth y mae gennyf unrhyw broblem ag ef, oherwydd mae’n rhaid cymryd gobaith lle gellir ei ddarganfod ac nid oedd neb yn gorfodi’r unigolion hyn i gymryd rhan.

Ond eto mae’r cwestiwn yn parhau: pam dod â Richey Edwards i mewn i’r hafaliad? Dyn sydd â theulu byw yn ymgyrchu o hyd i wybod ble mae o; dyn sy’n dal yn fyw yn atgofion cymaint o bobl?

Un Cynnig Olaf

Roedd amser am un cwestiwn olaf, ac wrth ystyried henaint a natur fregus mwyafrif y gynulleidfa, nid oedd yr amgylchiadau yn briodol ar gyfer gwrthdaro. Penderfynais y byddwn yn siarad â Kruger mewn eisteddiad preifat yn syth ar ôl y sioe, a gofyn iddi am ei defnydd o Edwards, ond nid cyn cyflwyno un cwestiwn olaf.

“Sut le yw’r ochr arall, ac a ydych wedi trio gwneud cysylltiad â phobl rydych wedi eu colli...”

Cyn i mi gael cyfle i orffen fy nghwestiwn, torrodd Kruger ar fy nhraws yn frwdfrydig: “Rydw i wedi bod â chysylltiadau efo fy anwyliaid am flynyddoedd...lle maen nhw yn fy ngwylio ond nid yn cyfathrebu â mi.” Yna aeth ymlaen i siarad am yr hyn y gallaf ddim ond ei ddisgrifio fel barn ddarluniadol, blentynnaidd o’r bywyd nesaf.

“Mae pawb sy’n meddwl yn debyg yn cael eu rhoi gyda’i gilydd. Mae’r bomwyr sy’n hunanladdwyr yn cael eu rhoi gyda’i gilydd, a’r rhai sensitif fel fi a gymerodd eu bywydau eu hunain yn cael eu rhoi gyda’i gilydd a’u helpu.”

Yna cafwyd y cyfeiriad at ‘ffrind gorau’ Richey. “Mae o mewn cysylltiad â’m cyfrwng a fo oedd fy ffrind gorau erioed a gwnaeth bopeth i geisio fy stopio rhag hunanladdiad. Rwy’n edrych ymlaen at gael mwy o gysylltiad gydag ef.”

I unrhyw un oedd yn gwybod, ffrind gorau Edwards - yn ôl y cyfryngau - oedd gitarydd bas y Manics, Nicky Wire. Fel dau oedd yn galw eu hunain yn efeilliaid, credid gan gefnogwyr bod y ddau yn rhai na ellid eu gwahanu. Roedd Kruger mae’n debyg yn ymwybodol o’r ffaith hon oherwydd oedd hi yn gefnogwr mawr y band yn ystod y pedair blynedd yr oedd Richey yn rhan o’r pedwarawd.

Gallai Kruger, nad oedd yn ddieithr i ddiwylliant cefnogwyr y band, fod yn ceisio cael rhywfaint o ymroddiad tebyg i’r hyn a dderbyniwyd gan Richey. Efallai ei fod wedi bod yn darged hawdd, oherwydd roedd ei bersona yno i’w gymryd, heb unrhyw waith gwirioneddol caled.

Daeth y noson i ben ar nodyn hyrwyddol, wrth i ‘Richard’ annog ei wrandawyr i diwnio i mewn i'w sioe radio newydd os oeddent yn dymuno clywed mwy o’i ddoethineb, ac unwaith eto gan fflicran ei llygaid yn ddramatig, roedd Angie Kruger yn ôl yn yr ystafell.

Diolchodd i’r gynulleidfa am eu hamser a hysbysebodd ei heisteddiadau preifat ar ôl y sioe, £20 am 20 munud a’r cyfle i ofyn  “unrhyw beth...unrhyw beth a ddymunwch”, i Richard, a oedd yn ymddangos yn beth poblogaidd iawn efo’r gynulleidfa gyffrous.

Yn ôl ar lawr y siop gan fynd at fwrdd Kruger gyda’m harian, roeddwn yn synnu braidd o’i gweld yn troi i ffwrdd oddi wrthym a dechrau sgwrsio efo’r unigolyn yn y blwch wrth ei hochr. Arhosais yn amyneddgar am ychydig o funudau hyd nes trodd Kruger ataf. Yna cefais fwy o syndod fyth wrth glywed nag oedd mwy o leoedd ar gyfer ei heisteddiadau preifat - er gwaetha ei hysbyseb yn gynharach.

Yna aeth Kruger ymlaen i droi ei sylw at ei chyd seicig, gan anwybyddu unrhyw holi pellach. Roeddwn wedi gweld popeth yr oedd arnaf angen ei weld a gadewais y lleoliad yn teimlo’n ddigalon iawn gyda fy anallu i gael sgwrs gyda Miss Kruger a fyddai’n golygu y byddwn yn cael  mwy o wybodaeth am ei thywysydd ysbrydol honedig.

I Grynhoi

Yn seiliedig ar dystiolaeth o weithgareddau’r noson, yr unig gasgliad y gallaf ei lunio yw bod Kruger yn dwyllwr. Er nad yw hyn yn wir ar gyfer pob seicig - oherwydd dim ond ffŵl fyddai’n datgan eu hunain yn bendant ynglŷn â’r naill ochr neu’r llall o’r ddadl - mae’r manylion personol y mae Kruger yn eu cynnig am Richey Edwards yn bethau y byddai unrhyw un sydd wedi darllen llyfr neu dudalen gwe amdano yn ei wybod yn barod.

Does dim gwybodaeth o’r tu mewn yma, a dim ond ei hyder anffodus i gefnogi ei honiadau ymffrostgar.

Mae’n ymddangos yn y sioe arbennig hon fod Kruger wedi cael mwy nag y bargeiniodd amdano, a dyna pam nad oedd yn syndod i mi logio ar lein i ganfod bod gwefan Angie a Rich bellach wedi’i henwi yn ‘Angie And The Enigmatic Immortal’. [Ar hyn o bryd mae’n www.angieandrich.co.uk - gol]

Efallai y dylai Kruger fod wedi cymryd llai o her yn ei dewis o dywysydd ysbrydol o’r dechrau - milwr o Dunkirk efallai? - neu o leiaf dylai fod wedi ceisio cael ei ffeithiau yn gywir. Mae’n drist pan ganiateir i rywun ymddwyn fel hyn ar draul manteisio ar sefyllfa mor drasig.

Mae teulu a ffrindiau agos Edwards, ynghyd â’i gefnogwyr mwy bregus, yn sicr yn haeddu cael eu harwr wedi’i drin efo mwy o ofal a pharch – pe bai ef yn byw ar yr ‘ochr arall’ neu beidio.

Os gwelwch yn dda sgrolia i lawr i waelod yr erthygl hon am ymateb anghynhwysol gan destun y darn, Angiau Kruger.

YMATEB GAN ANGIE KRUGER (© www.thesprout.co.uk

“Dwi’n gwybod fod llawer o ddadl wedi bod dros y blynyddoedd am y pwnc hwn ac mae gen i Dywyswr Ysbrydol o’r enw Richard (mae 99% o gyfryngwyr efo tywyswr). Ond mae'n rhaid bod miloedd o bobl yn y byd a ddaw efo’r enw hwn.

“Nid oes ffordd o wybod os mai hwn ydy’r un person mae’r holl ffwdan yma amdano, gan nad ydw i erioed wedi cael eisteddiad preifat gydag unrhyw un oedd yn ei adnabod yn dda. Fel cyfryngwr, rydym yn gweithio drwy roi tystiolaeth o oroesiad ysbryd dynol i’n cleientiaid trwy’r negeseuon, sydd yn aml yn bersonol iawn neu’n aneglur, rydym yn derbyn trwy ein gallu i *diwnio i mewn* i’r Byd Ysbryd. Fel arfer mae’r negeseuon hyn yn atgofion o bethau maent wedi rhannu ayyb ac yn hyn dim ond canolwr ydw i.

“Dwi wedi gweithio efo miloedd o bobl yn fyd eang gyda graddfa uchel o lwyddiant. Dwi hefyd yn gweithio i Haunted Cornwall FM. Mae gen i record dda. Rydw i YN cael llawer o wybodaeth yn cael ei ysgrifennu i lawr gan fy  Nhywys. Ond dyw’n golygu dim i mi.

“Yr unig ffordd y byddwn yn gallu dweud ia neu na yn bendant ydy os byddai rhywun agos yn gallu dweud wrthyf os oedd y wybodaeth yn cyseinio gyda nhw. Ac fel dwi wedi ei ddweud bydd fy nrws gwastad ar agor ar gyfer hyn.

“Hoffwn hefyd ychwanegu nad yw hyn llawer iawn i wneud gyda fy ngwaith, sydd ar y cyfan yn ddarlun llawer ehangach. Yn bennaf mae'n ymwneud â dod a chysur, arweiniad a chau’r drws ar bethau i’r rhai sydd yn defnyddio fy sgiliau, hynny a hyrwyddo Ysbrydolrwydd.”

Angie K
 

GWADIAD: Nid yw thesprout yn dod i’r casgliad fod Angie Kruger yn dwyllwr. Fel gyda’r holl erthyglau a lwythir ar deulu CLIC o wefannau, mae’r farn o’u mewn yn farn y bobl ifanc sy’n ysgrifennu fel rhan o lwyfan mynegiant. I gael mwy o wybodaeth darllenwch ein Hamodau a Thelerau a’n Polisi Defnydd Derbyniol. Rydym yn croesawu dy sylwadau isod.

DOLENNAU

Gwefan Angie Kruger's


Gwefan Manic Street Preachers'

The Last Of Richey Edwards? (gwefan ffan)

Archives Of Pain (gwefan ffan Richey)


Kruger ar y fforwm Forever Delayed


Tudalennau Iechyd Emosiynol a Meddyliol CLIC

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.