Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

FlogCLIC: Cyflwyniad

Postiwyd gan CrazyDistortion o Rhondda Cynon Taf - Cyhoeddwyd ar 14/01/2012 am 10:01
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Technoleg, Materion Cyfoes

English version

Yn fy nghwrs, Technolegau Creadigol (Amlgyfryngau( ym Mhrifysgol Morgannwg, mae modiwl gelwir yn Brosiect Amlgyfrwng Unigol, ble gallaf wneud unrhyw beth hoffaf, heblaw am oresgyn Mecsico gyda 10,000 o lwyau.

Ond, gallaf wneud pethau gallai fod o fudd i'm nyfodol yn y diwydiant cyfryngau newydd, fel creu gwefan neu rywbeth.

Ond, gan fy mod i'n bod yn hipstyr drwy ddweud fod creu gwefan yn rhy amlwg, penderfynais gyfuno fy ymrwymiad gyda CLIC gyda fy mhrifysgol a'm niddordeb sydyn o wylio fideos ar YouTube.

Ia dyna ti. Dwi wedi cychwyn cyfres flog, gyda'r codenw FlogCLIC.

Dyma ychydig o bethau hoffwn wneud gyda'r gyfres yma.

  • Gyda CLIC mewn meddwl, syniad y flogiau oedd rhannu newyddion gallai gael effaith ar bobl ifanc cenedl braf Cymru mewn un ffordd neu'i gilydd.
  • I ddefnyddio ffurf arall o gyfryngau i rannu gair CLIC
  • A gyda fy nghwrs mewn meddwl, i adael i mi ddatblygu fy sgiliau golygu, gan mai golygu fideos ydy fy maes gwannaf pan ddaw at gyfryngau newydd.

Gan nad oes gen i unrhyw hyder o flaen camera, gofynnais i'm nghyd CLICiwr Stormer007 helpu gyda'r cyflwyno. Ac fe dderbyniodd. Gwych.

Ond nid prosiect fi a Stormer007 ydy hwn yn unig. Os wyt ti eisiau helpu ni gydag ef o gwbl mewn unrhyw ffordd, bod hyn yn cyflwyno am wythnos, neu'n cyfweld rhywun, neu'n rhoi rhywbeth i ni siarad amdano, gallet e-bostio CLICvlog@gmail.com (a do, rydym wedi creu cyfrif e-bost iddo, rydym ni mor graidd galed a hynny).

Hefyd, os oes gen ti amser i wylio'r fideos (er ar hyn o bryd dim ond un sydd ar gael), byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw fath o sylwad yn fawr iawn.

Felly, heb oedi hirach…

Hefyd, dyma gyswllt iddo ar YouTube a dyma gyswllt iddo ar CLICwylio.

Diolch am gymryd yr amser i ddarllen hwn, a dyma obeithio am brosiect llwyddiannus (a gobeithio, gradd dda i'm nghwrs).

Gwybodaeth – Creu Ffilm ac Animeiddio

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.