Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

EisteddFlog: Dydd 1 Blog 1

Postiwyd gan emb789 o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 30/05/2011 am 12:14
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Gwyl, Pobl, Materion Cyfoes

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • skelley
  • body

English version

Yr wythnos hon, mae CLIC yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd yn Abertawe. Bob dydd, bydd un o'n hysgrifenwyr yn rhannu ei brofiad o'r ŵyl. Dyma fydd Eisteddflogiau'r Urdd a dyma emb789 yn blogio ar y diwrnod cyntaf…

Yn Eisteddfod Yr Urdd, roedd ystafell gwyddoniaeth, lle'r oedd tipyn o stondinau gyda phobl yn gwneud pethau gwyddonol arnynt.

Roedd yn teimlo fel Techniquest bychan i mi, ond gyda llawer mwy o gynnwrf, gan fy mod wedi bod i Techniquest cymaint o weithiau mae'r cyffro wedi pylu.

Yn anffodus i mi, roedd yr ysgrifen i gyd bron mewn Cymraeg, felly roeddwn yn gofyn yn barhaol i CrazyDistorition gyfieithu i mi. Ond dwi ddim yn meddwl fod llawer o ots ganddo. Ni chefais ddwrn, sydd yn beth da dwi'n feddwl.

Roedd y stondin cyntaf yn un gyda dyn yn gwneud arddangosiad o'r hwyl gallet gael gyda hylif nitrogen: rhewodd falŵns ac yna dadrewi nhw ac roedd o'n cŵl iawn!

Rhewodd un o fandiau arddwn CLIC i ni ac yna ei falu yn ddarnau bychan. Fe wnaeth rhywbeth gyda magnetau hefyd, lle'r oedd yn tywallt hylif nitrogen dros y magnet ac yna'n rhoi magnetau eraill ar ei ben ac yna roedd y magnetau eraill yn arnofio ar ben eu hunain yn yr awyr. Yr unig esboniad bosib ydy mai hud ydyw! Dyna sut mae magnetau yn gweithio!

Nesaf, roedd yna bobl o Fe Wnaf Dros Gymru, a dangosasant nhw graff i ni oedd yn dangos sawl wat o egni mae teclynnau gwahanol yn ei ddefnyddio – mae gwefrwr ffôn yn defnyddio pum wat, tegell yn defnyddio 2000 (cofia mai ar gyfartaledd ydy'r rhain).

Ar y stondin diwethaf, cyn i ni fentro allan i'r anhysbys, roedd arddangosfa am ficrobau, ac roedd pob microb yn cael ei gynrychioli gan degan bach anwes. Roedd hefyd dysglau Petri gydag wynebau'n gwenu wedi cael eu gwneud o facteria ynddynt.

Roedd yna blant bach yn taro pethau gyda morthwylion, a sgerbwd yn gwisgo mwgwd llawfeddyg, ond ni fuon yn archwilio'r adrannau yno yn drylwyr, ond roedd yn edrych yn ddiddorol.

Roedd yr holl beth yn hwyl fawr, ac os wyt ti'n dod draw i'r Eisteddfod, sicrha dy fod yn galw draw at y bobl wyddonol yna, dwi'n siŵr byddi di'n cael llawer o hwyl.

I weld mwy o luniau o'r Eisteddfod edrycha ar ein halbwm Flickr ar ddiwedd pob dydd.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.