Eisiau Actio I'r BBC?
English version
Mae'r BBC yn chwilio am ddau o actorion proffesiynol, amlbwrpas fyddai'n gallu gweithio gyda Chwmni Drama Radio BBC.
Byddant yn cynnal clyweliadau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth am wyth i ddeg o actorion rhestr fer gyda Chynhyrchydd Drama Radio BBC Cymru ar ddydd Sul, 22 Ionawr 2012.
Bydd rhai i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer rownd cynderfynol yn Llundain ar ddydd Mawrth, 14 Chwefror a'r rownd derfynol ar ddydd Llun 19 a dydd Mawrth 20 Mawrth 2012.
Bydd rhaid i ti hefyd fod yn barod i fod wedi sefydlu yn Llundain o 21 Gorffennaf am bum mis os mai ti yw un o'r ddau ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Gymrodoriaeth Norman Beaton (NBF) y BBC yn fenter sydd yn cael ei redeg gan Ddrama Radio BBC. Cafodd yr NBF ei sefydlu i ehangu'r amrediad o actorion sydd ar gael i gynhyrchwyr Drama Radio dros Brydain gan annog ymgeiswyr o bob oedran o gefndiroedd hyfforddiant sydd ddim yn draddodiadol.
Bydd rhaid i actorion fod dros 18 oed a heb fynychu cwrs ysgol ddrama achrededig ond bod ganddynt brofiad actio.
Os hoffet ymgeisio am le yn y clyweliad, plîs gyrra CV (hyd at ddau ochr A4) a llythyr yn esbonio pam fod gen ti ddiddordeb yn y cyfle hwn i Gill Ogden erbyn dydd Llun, 18 Rhagfyr.
Gill Ogden
Pennaeth Celfyddydau Perfformio
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3DE
E-bost: ggo@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 621512
Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth
Tudalennau Celfyddydau Perfformio

