Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Dymchweliad

Postiwyd gan pulley o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 01/11/2010 am 09:25
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Hinsawdd, Amgylchedd, Pobl, Materion Cyfoes

English version

Teimlo’n bositif am fywyd, y cyfanfyd a phopeth er gwaethaf yr enciliad?

Dyma gyflwyno Michael Ruppert, dyn fydd cyn hir yn gwneud i ti feddwl fod y dyfodol yn llai disglair nag yr wyt ti’n feddwl.

Mae Ruppert wedi cael ei ddisgrifio fel codwr bwganod a gweledydd, ond fe gei di wneud dy farn dy hun arno drwy wylio’r ffilm ddogfen hwn sydd yn ychydig fwy nag ef mewn ystafell dywyll yn ateb cwestiynau am ei astudiaethau i mewn i farwolaeth y blaned.

Yn fyr, mae’n meddwl bydd cyflenwad olew'r blaned yn rhedeg allan yn fuan. Yn fuan iawn. A pan fydd, bydd cymdeithas fel yr ydym yn ei adnabod yn dymchwel.

Mae llawer o beth mae’n ei ddweud wedi cael ei drafod i farwolaeth, ond pan mae’n siarad am faint o olew rydym yn ei ddefnyddio fel rhywogaeth rwyt ti yn meddwl o ddifrif faint sydd ar ôl.

Oeddet ti’n gwybod fod angen saith galwyn o olew i wneud un teiar car? Neu fod rhan fwyaf o fwyd y byd yn cael ei bacio mewn plastig (sydd yn cael ei wneud o olew), ac yn cael eu trosglwyddo mewn tancer sydd yn cael ei bweru gan olew? Mae cnydau yn cael eu llychau gan blaleiddiad yn seiliedig ar olew, wedi’i gollwng o awyrennau sydd yn cael eu pweru gan olew.

Fedri di weld i ba gyfeiriad mae’n mynd.

Byddai’n hawdd gwylio Collapse (82 munud, tystysgrif E, allan ar DVD heddiw) a’i wrthod fel synfyfyrio dyn gwallgof, ond pan ti’n darganfod fod Ruppert yn gyn swyddog Adran Heddlu Los Angeles (LAPD) wedi troi’n chwythwr chwiban Asiantaeth Cudd-ymchwil Canolog (CIA) ac yn newyddiadurwr profiadol, ac wedi rhagweld yr enciliad (recession) byd presennol yn ôl yn 2006, byddet yn ei chael yn anodd gwneud hyn.

Byddai’n o leiaf yn gwneud i ti feddwl, ac nid oes dim o’i le yn hynny.

Gwefan ffilm Collapse

Tudalennau Amgylchedd

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.