Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd Yn Fwy Diogel

Postiwyd gan xristina-14 o Penybont ar Ogwr - Cyhoeddwyd ar 06/02/2012 am 09:35
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Technoleg, Materion Cyfoes

  • int

English version

Byddai Penybont yn Dweud Diwedd i Fwlio yn hoffi i ti feddwl am y pwyntiau dilynol yn barod ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel.

Cofia!

Paid rhannu manylon personol gyda neb ar-lein.

Sicrha fod holl gyfrineiriau yn ddiogel, defnyddio llythyren is a llythrennau bras a rhifau hefyd.

Paid defnyddio enwau na dyddiad geni.

Cadwa cyfrineiriau yn gyfrinachol. Paid byth rhannu gyda neb.

Sicrha dy fod yn adnabod unrhyw un ti'n ychwanegu ar-lein yn bersonol. Dydy cyfarfod rhywun ar-lein ddim yn golygu dy fod di'n adnabod nhw.

Meddylia pwy sydd yn gallu gweld dy broffiliau rhwydweithio cymdeithasol. Meddylia os ydy beth ti'n bostio yn rhywbeth ti eisiau i bawb weld  neu dim ond dy ffrindiau agos.

Cofia unwaith ti'n postio gwybodaeth ar-lein, nid yw'n bosib ei dynnu'n ôl. Hyd yn oed os wyt ti'n dileu'r wybodaeth o wefan.

Cysidra peidio postio dy lun. Gallai gael ei altro a'i ddarlledu mewn ffyrdd efallai na fyddi di'n hapus gydag ef. Os wyt ti yn postio un, gofynna i ti dy hun os yw'n un bydda dy rieni yn arddangos yn yr ystafell fyw.

Rhaid cael ffydd yn nheimladau dy hun os oes gen ti ddrwgdybiaeth,  os wyt ti'n teimlo bygythiad gan rywun neu'n anghyffyrddus oherwydd rhywbeth ar-lein, dweud wrth oedolyn ti'n ymddiried ynddo a'i adrodd i'r heddlu a'r wefan rhwydwaith cymdeithasol. Gallet helpu rhwystro rhywun arall rhag dioddef.

Os wyt ti eisiau defnyddio ystafelloedd 'chat', sicrha fod yr enw defnyddiwr yn hollol wahanol i rai tudalennau rhwydweithio cymdeithasol ti. Gallent nhw gael mwy o wybodaeth nag yr wyt ti eisiau.

Os nad wyt ti'n adnabod anfonwr dogfen neu ffeil sydd angen cael ei lawr lwytho, dileu ef heb ei agor i osgoi cael firws ar dy beiriant. Mae'n angenrheidiol cael meddalwedd amddiffyn yn erbyn firws i bob cyfrifiadur.

Paid byth trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb heb ddweud wrth riant neu warchodwr. Os ydy dy riant neu warchodwr yn cytuno i'r cyfarfod, sicrha dy fod di'n cyfarfod mewn lle cyhoeddus a bod rhiant neu warchodwr gyda thi gan ei y gallai fod yn beryglus iawn i'r cyfarfod yma gymryd lle heb oruchwyliaeth.

Os oes gen ti unrhyw broblemau yn codi ar-lein rho wybod i'r Ganolfan Cam-fanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP)

I drafod hyn ymhellach cysyllta Penybont yn Dweud Diwedd i Fwlio ar 01656 754920 neu e-bostia ni ar bseb@bridgend.gov.uk.

Mwy o Wybodaeth Diogelwch Ar-lein

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.