Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyfle Olaf Taith Mongolia

Postiwyd gan wyfsd - robin o Gwynedd - Cyhoeddwyd ar 11/04/2011 am 18:47
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Hinsawdd, Diwylliant, Addysg, Amgylchedd, Teithio, Gwirfoddoli, Yn Gymraeg

  • mongolia

English version

Am fynd ar daith i rywle nad yw'r rhan fwyaf o bobl byth am fynd iddo?

Mae Dyfodol (WYFSD) wedi derbyn arian gan GwirVol er mwyn mynd â grŵp o bobl ifanc ar drên i Fongolia. Byddem ni'n gweithio efo pobl ifanc sy'n rhan o'r mudiad newydd "Mongolian Youth on Climate Change," er mwyn rhannu sgiliau a dysgu am ddiwylliant ac effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru a Mongolia.

Rydym yn chwilio am bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed o Gymru i gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn. Bwriad y prosiect yw cynnwys pobl o bob cefndir, a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant, na gwaith.

Bydd y bobl ifanc yn gweithio law yn llaw gydag aelodau ifanc o Dyfodol a staff er mwyn rhoi'r prosiect ar waith, gan gynnwys:

  • Creu a datblygu perthynas gyda'n partneriaid ym Mongolia
  • Cynllunio'r daith i Fongolia ac yn ôl
  • Derbyn hyfforddiant - mewn addysg cyfoedion, sgiliau hwyluso, a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd ym Mongolia
  • Paratoi'r gwaith fydd yn cael ei wneud ym Mongolia
  • Ymchwil i ddiwylliant, iaith ac amgylchedd Mongolia
  • Hyrwyddo'r prosiect yng Nghymru a thu hwnt
  • Rhannu eu profiadau gyda'u cyfoedion drwy weithdai, creu ffilmiau a dulliau eraill o'u dewis
  • Bydd y daith i Fongolia tua mis o hyd, gan gynnwys tua 8 diwrnod o deithio bob ffordd, a phythefnos ym Mongolia ym mis Medi 2011.

Bydd costau yn cael eu talu gan Dyfodol, ond bydd angen codi rhywfaint o arian, a bydd hyn yn cael ei wneud gyda chymorth gweithwyr ieuenctid.

Mae angen i geisiadau ar gyfer Project Mongolia gyrraedd admin@dyfodol.org erbyn 12:00 dydd Gwener 15fed Ebrill. Mae yna lefydd i 8 o bobl ifanc ar y daith. Rydym yn derbyn lluniau, caneuon, straeon, unrhyw beth bron sy'n dangos pam ddylem ni dy ddewis di ar gyfer y daith. Manylion llawn yma: http://wyfsd.org/wp/?p=401 neu cysyllta â ni ar admin@dyfodol.org neu 0845 456 5453.

Delweddau: Lofty Blessings gan The Wandering Angel a childs globe gan John Cooper

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.