Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Arolwg Iwnifform Heddlu Gogledd Cymru

Postiwyd gan CLICtania o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 01/02/2010 am 07:45
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ffasiwn, Pobl, Yn Gymraeg

  • Photo 1

English version


Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd am iwnifform eu swyddogion.

Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein er mwyn ceisio penderfynu sut mae pobl yn gweld yr heddlu a pha wahaniaeth mae steiliau iwnifform wahanol yn ei wneud.

Mae’r arolwg yn cael ei wneud gan yr Uwch-arolygydd Simon Shaw fel rhan o’i astudiaethau MBA ym Mhrifysgol Bangor.

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r iwnifform wedi cael ei datblygu er mwyn darparu gwisg gyffyrddus ac ymarferol i’r staff gweithredol.,” meddai.

“Fel rhan o’m hastudiaethau rwy’n gobeithio darganfod pa effaith mae’r iwnifform yn ei chael ar feddwl y cyhoedd o’r heddlu, a dros yr wythnosau nesaf byddaf yn cynnal arolwg ar y stryd, ynghyd ag arolwg ar-lein.”

Mae’r Uwch-arolygydd Shaw yn ei flwyddyn olaf o’r cwrs ac mae’r darn hwn o waith yn rhan o’i draethawd hir olaf. Bydd yn graddio ym mis Gorffennaf.

Mae eisoes wedi cynnal arolwg yng Nghanolfan Siopa’r Bay View ym Mae Colwyn ac mae’n annog gymaint o bobl a phosib i gymryd rhan.

“Rwy’n bwriadu cael cymaint o adborth ag y gallai, ac ar y diwedd, byddaf yn rhannu’r gwaith ymchwil â’r llu.”

Mae’r arolwg ar lein i’w weld yma: www.north-wales.police.uk

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.