Adolygiad: New Moon
English version
New Moon ydy un o’r ffilmiau gorau dwi erioed wedi’i weld.
Yn bersonol mae’n well gen i Jacob nag Edward, ond mae’r effeithiau a barnau personol Bella yn dod yn fyw, wrth i bopeth ddod yn ôl at Edward.
Mae’r pac bleiddiau yn cael ei gyflwyno yn y ffilm hon, yr ail o’r pedwarawd o ffilmiau Twilight. Daeth Twilight a Bella a Edward at ei gilydd, mae New Moon yn eu gwahanu. Dwi ddim yn gallu disgwyl i weld beth maent yn ei wneud gyda Eclipse.
Dwi’n adnabod y llyfrau yn dda iawn felly pan holltwyd a newidiwyd rhai rhannau yn y ffilm roeddwn i’n drysu braidd, ond fe bigais o fyny yn syth. Mae’r Volturi yn wych a’r stori yn cario yn ei flaen o bob antur i’r llall.
Mae Taylor Lautner yn gwario’r rhan fwyaf o’r ffilm heb grys ymlaen, gan fod dod yn flaidd-ddyn yn cadw ei dymheredd yn 108.9 gradd. Mae o yn lysh ac os wyt ti’n ei gymharu gyda Robert Pattinson, mae o’n ennill bob tro.
Dwi ddim eisiau pechu neb drwy ddweud dwi ddim yn deall beth ydy apêl Robert, ond dyna beth ydw i’n ei feddwl. Mae Taylor yn lysh, hyd yn oed os nad yw fy chwaer efell yn meddwl hynny.
