Adolygiad: MediaDevil Typeguard
Yn swît Technoleg Gwybodaeth Prifysgol Morgannwg, maent yn gwahardd bwyd ond nid diod.
Dwi wedi meddwl fod hyn yn beth ychydig yn od erioed, o gysidro'r difrod gall diod sydd yn tasgu ei wneud i allweddellau cyfrifiadur o gymharu ag ychydig o friwsion brechdan.
Efallai dylent ymgynghori â Media Devil, sydd wedi meddwl am ymateb bydd yn lleihau'r trwsio drud sydd angen ar ôl unrhyw fath o ddamwain gyda dy MacBook yn sylweddol.
Mae'r MediaDevil Typeguard ar gyfer y MacBook a'r Macbook Pro yn dod mewn fersiynau clir a gwrthfacteria.
Mae'r ddau yn amddiffyn dy allweddell oddi wrth lwch, hylif a difwynwyr eraill, ond mae'r un gwrthfacteria hefyd wedi'i fewnblannu gyda nano-gronynnau arian, sydd wedi'u profi yn wyddonol i atal tyfiant dros 600 math o facteria.
Mae'r ddau yn hawdd i'w rhoi ar (gan ei ollwng dros yr allweddell yn unig), nid oes angen gludydd, a gall eu golchi a'u hailddefnyddio.
Wrth ei ddefnyddio am y tro cyntaf, mae'r allweddell yn teimlo ychydig yn od, ac rwyt ti'n ymwybodol fod rhywbeth yn wahanol. Ond, ar ôl ei ddefnyddio am dipyn mae'r rhwystr yn lleihau ac yn rhoi profiad teipio mwy esmwyth a'r ymwybyddiaeth fod dy MacBook neu MacBook Pro ychydig yn fwy saff pan ddaw at friwsion a hylif yn tasgu.
Mae'r fersiwn clir yn £14.97 (i lawr o £19.97 ar y wefan MediaDevil), tra mae'r fersiwn gwrthfacteria yn £16.95 (i lawr o £21.97).
mediadevil.com
Tudalen Cyfrifiaduron a'r Rhyngrwyd



