Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Adolygiad Llyfr: Far South

Postiwyd gan pulley o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 18/11/2011 am 14:19
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol

English version

Mae Far South gan David Enrique Spellman yn llyfr arloesol sydd yn llawn amlgyfryngau allanol gan gynnwys fideos, lluniau ac astudiaethau achos, yn ogystal ag adran llyfr comig.

Mae'r defnydd o ddolennau Bitly a chodau QR o fewn y llyfr yn syniad doeddwn i ddim wedi'i weld o'r blaen, ond mae'n un sydd yn ymddangos fel dilyniant amlwg ym myd llyfrbryf heddiw, nifer ohonynt yn ymestyn am eu ffonau clyfar wrth chwilio am wybodaeth bellach ar faterion o fewn y llyfr diweddaraf.

Mae'r plot yn eithaf syml: wedi'i osod yn yr Ariannin, dyma stori'r cyfarwyddwr theatr goll Gerardo Fischer. Mae'r ymchwiliwr a chyn heddwas Juan Manuel Pérez yn arwain yr achos.

Mae Pérez efo hanes gyda'r grŵp theatr mae Fischer yn rhan ohono, gan ei fod wedi delio gydag ymosodiad treisgar arnynt. Cafodd hefyd ei waradwyddo o fewn y fyddin am amlygu cyd-weithwyr llygredig ac mae ganddo lygaid am y merched sydd yn ffactor yn nifer o'r penderfyniadau mae'n gwneud.

Mae ei chwiliad am y Fischer enigmatig yn ddigon deniadol, ond fel rhywun sydd wrth ei fodd yn defnyddio apps ei iPhone 4 roeddwn yn mwynhau'r adegau pan roedd ymchwiliad allanol yn cael ei gynnig gan yr amlgyfryngau. Roedd y fideos yn cynnig cliwiau gan gymeriadau yn cael eu chwarae gan actorion o ansawdd gan gynnwys Nathan Sussex roeddwn yn adnabod o un o ddramâu Patrick Jones.

Golygai hyn fy mod yn teimlo'n rhan o'r proses ymchwilio, ac roedd yn mynd a fi yn ôl at un o'r llyfrau cyntaf i mi ddarllen oedd efo'r opsiwn o 'ddewis antur dy hun'. Wedi dweud hyn, nid oes rhaid edrych ar yr amlgyfryngau yn syth (neu o gwbl hyd yn oed) i fwynhau'r llyfr, ond mae yn gwella'r profiad.

Dwi'n argymell Far South yn fawr iawn fel arbrawf newydd ac arloesol yn y profiad darllen. Efallai bydd purdebwyr yn gwingo gyda'r syniad, ond bydd y rhai sydd yn cofleidio technoleg newydd a rhyddid creadigol yn rhoi'r chwarae teg mae'n haeddu iddo.

Pryna’r llyfr ar Amazon
Y Prosiect Far South ar Tumblr

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.