Adolygiad: Eclipse
Wrth wylio Eclipse roeddwn i’n meddwl fod ganddo lawer i brofi.
Gan feddwl fod y ddwy ffilm gyntaf wedi bod yn gymaint o lwyddiant, roedd yn mynd i fod yn anodd (os nad amhosib) i wneud yn well.
Cafodd Eclipse ei gyfarwyddo gan Catherine Hardwicke ac yn serennu Kristen Stewart, Robert Pattinson a Taylor Lautner.
Wrth i Seattle gael ei ddifrodi yn filain gyda nifer o lofruddiaethau, mae’r Cullens yn paratoi i daclo’r bygythiad newydd. Ond wrth iddynt baratoi, mae Victoria yn rhydd ac mae ymwelydd annisgwyl yn llofft Bella yn rhoi persbectif newydd ar y sefyllfa.
Ac fel nad ydyw hynny ddigon, mae Bella yn gorfod dewis rhwng ei chariad am Edward a’i chyfeillgarwch efo Jacob. Am ddryswch! Ond wrth iddynt baratoi maent i gyd yn gwybod un peth… mae pethau yn mynd i fynd yn flêr!
Byddwn yn awgrymu gweld y ddwy ffilm gyntaf cyn gwylio’r un yma. Gall ddrysu ti os nad wyt ti’n gwybod pwy ydy’r prif gymeriadau.
Roeddwn yn meddwl bod y plot yn wych a’r golygfeydd ymladd yn anhygoel, ond y darn berodd i mi garu’r ffilm oedd yr actorion. Pan ddarllenais i’r llyfrau roedd gen i ddelwedd o’r cymeriadau yn fy mhen. Roedd yr actorion yma yn debyg iawn i’r cymeriadau yn y llyfr a dwi’n cymeradwyo nhw ar hynny. Nid yn aml wyt ti’n ffeindio bron cast llawn dda iawn i ffilm.
Dwi’n meddwl bod y ffilm yn addas i bawb gan fod rhamant, drama ac arswyd i gyd wedi cymysgu ynddo. Ffilm dda yn gyfan gwbl. Methu disgwyl am y pedwerydd!
LINCIAU
Cyfres llyfrau The Twilight
Adolygiad New Moon
Erthygl Sugnwyr Gwaed a Phobl Ifanc
