Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Trosedd » Fandaliaeth a Graffiti
Yn yr Adran Hon
Fandaliaeth a GraffitiÂ
Trosedd malurio, distrywio neu hagru eiddo nad ydych chi’n berchen arno yw fandaliaeth. Mae gweithgareddau fel torri ffenestri llochesi bysus, rhoi paent ar dai a waliau a chicio blychau post i mewn ar y naill law yn gwneud i eiddo edrych yn hyll, ac ar y llaw arall mae'n gwneud i bobl deimlo'n ddig ac i gymdogaethau edrych wedi dirywio. Yn anffodus, pobl ifanc sydd wedi diflasu, sy’n ddicllon neu sydd mewn gangiau stryd sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r troseddau yma.
Yn ystod blynyddoedd diweddar mae pobl wedi cydnabod bod graffiti yn gelfyddyd a gallan nhw nawr dderbyn bod celfyddyd graffiti, pan mae wedi’i rheoli, yn gallu bod yn ddiddorol ac mewn rhai achosion yn gelfyddyd hyfryd. Erbyn hyn mae yna lawer o grwpiau o artistiaid graffiti sy’n ennill bywoliaeth o’u celfyddyd.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu eich bod yn gallu rhoi graffiti ar eiddo pobl eraill, ac mae yn erbyn y gyfraith i siopwr werthu paent chwistrellu i bobl dan 16 oed. Felly os ydych chi’n hoffi celfyddyd graffiti, ymunwch â grwp.
I gael gwybod mwy am grwpiau celfyddyd graffiti yn y DU ewch i bbc.co.uk a chwilio gwefan y BBC am graffiti.
