Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Trosedd » Arfau a Drylliau
Yn yr Adran Hon
Arfau a DrylliauÂ
Gellid ystyried unrhyw eitem a allai achosi niwed yn arf, felly gall yr eitemau yma amrywio o ddrylliau, cyllyll, cleddyfau a gynnau awyr i sisyrnau, plycwyr, a hyd yn oed deintbigau. Arf sy’n saethu bwled, pelet neu daflegryn yw dryll. Gall hyd yn oed gwn pys achosi niwed difrifol.
Mae’n drosedd bod â dryll i’ch helpu i droseddu neu i atal yr heddlu rhag eich arestio. Nid oes yn rhaid iddo fod yn ddryll go iawn. Mae drylliau chwarae neu gopïau yn drosedd os oes modd profi eich bod wedi bwriadu i bobl feddwl ei fod yn ddryll go iawn.
Os oes gan yr heddlu reswm i feddwl bod gennych chi ddryll mae ganddyn nhw hawl i’ch stopio a’ch chwilio – gwelwch yr adran ar stopio a chwilio.
Mae yna gyfyngiadau oed ar dystysgrifau, prynu a hurio gynnau pelets a drylliau. I gael y manylion ewch i www.west-midlands.police.uk a chwilio am Firearms licensing. e.e. pan fyddwch chi’n 14 oed, gallwch chi fod â thystysgrif gwn pelets ond nid tystysgrif dryll, ni allwch chi brynu na hurio gwn pelets hyd nes y byddwch chi’n 17 oed na derbyn gwn pelets yn anrheg hyd nes y byddwch chi’n 15 oed.
Mae yna ddrylliau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer chwaraeon, yn eu plith gynnau pelets, reifflau a gynnau awyr. Mae’r chwaraeon yma’n eich galluogi i ddefnyddio drylliau mewn amgylcheddau rheoledig a diogel, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn drylliau ewch i’r gwefannau isod a meddyliwch am ymuno â chlwb drylliau neu roi cynnig ar saethu colomennod clai.
Yn yr un modd, os oes gennych chi ddiddordeb mewn cleddyfau fe allech chi ystyried ffensio a fydd yn eich dysgu sut i ddefnyddio cleddyf ac i ymladd mewn amgylchedd diogel a rheoledig.
