Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Gweithdrefnau'r Llys » Llys Ieuenctid
Yn yr Adran Hon
Llys Ieuenctid
Mae’r llysoedd yma’n rhan o’r llys ynadon a byddan nhw’n delio ag achosion pobl ifanc rhwng 11 a 17 oed. Os ydych chi dan 16 oed, mae’n rhaid i’ch rhiant, gwarcheidwad neu weithiwr cymdeithasol fod yn y llys gyda chi. Bydd yr ynadon, o leiaf dau ohonyn nhw, wedi cael hyfforddiant mewn materion cyfiawnder ieuenctid, a bydd o leiaf un ohonyn nhw'n ddyn ac un yn ddynes. Ni fydd y cyhoedd yn cael mynychu llys ieuenctid pan fydd achos gerbron y llys. Ni all y papurau newydd ddatgelu enw'r sawl sy'n cael ei gyhuddo na manylu ar bwy ydyw.
Os bydd y llys yn eich cael yn euog o drosedd a chithau dan 18 oed, fe allai wneud cais am adroddiadau cyn dedfrydu. Y Tïm Troseddu Ieuenctid fydd yn llunio’r adroddiadau yma, a bydd hefyd yn helpu’r llys i benderfynu ar y ddedfryd a/neu’r gosb fwyaf priodol i chi.
Cyfreithiwr fydd yn gallu rhoi’r cyngor mwyaf priodol i'ch helpu chi os yw'ch achos yn mynd gerbron y llys. Gwelwch adran CLIC ar wasanaethau Cyngor Cyfreithiol i gael mwy o wybodaeth am gyfreithwyr.
