Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Gwahaniaethu

Yn yr Adran Hon

Gwahaniaethu

Gwahaniaethu yw’r gair am drin pobl yn annheg oherwydd pwy ydyn nhw, a gall hyn fod oherwydd eu hil, eu rhyw, eu hanabledd, eu statws priodasol, eu tueddfryd rhywiol neu eu hoed.

Mae gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail eu hil, eu lliw, eu hoed, eu cenedligrwydd, eu tarddiad ethnig neu genedlaethol, eu rhyw neu eu rhywioldeb yn anghyfreithlon. Ar hyn o bryd, nid yw’n drosedd gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail eu hoed.

Gall gwahaniaethu fod yn uniongyrchol ac yn amlwg, er enghraifft dau o bobl yn gwneud yr un swydd ond yn cael eu talu ar wahanol gyfraddau oherwydd eu rhyw. Gall hefyd fod yn anuniongyrchol e.e. hysbyseb swydd sy’n gofyn am bethau penodol iawn. Mae cyfraith y DU yn cydnabod y ddau fath o wahaniaethu.

Mae’n gall ystyried a ydych chi wedi gwneud unrhyw beth yn eich bywyd bob dydd yn y gwaith neu’r ysgol neu’r coleg y gellid ei ystyried yn wahaniaethu.

Efallai eich bod chi’n meddwl bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn chi, ac os oes angen cyngor neu help arnoch chi i ddelio â hyn, gall y gwefannau canlynol gynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd ichi.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.