Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Dioddefwyr Trosedd » Trais Rhywiol

Trais Rhywiol

Mae trais rhywiol yn drosedd dreisgar hynod ddifrifol, ac nid bai’r dioddefwr ydyw dan unrhyw amgylchiadau. Mewn llawer o achosion mae’r dioddefwr yn adnabod y troseddwr. Gall ddigwydd i unrhyw un, boed wrywaidd neu fenywaidd, a does a wnelo hyn ddim ag oedran, sut olwg sydd arnoch chi neu sut rydych chi wedi gwisgo. Fodd bynnag, gallwch chi helpu i ddiogelu'ch hun drwy gadw llygad ar eich diodydd i sicrhau nad oes neb yn sleifio cyffur i mewn iddyn nhw a chithau wedyn yn cael eich hun yn dioddef gan drais rhywiol dan ddylanwad y cyffur.

Gall ymosodiad trais rhywiol eich gadael yn teimlo wedi’ch diraddio, yn ddryslyd, yn isel ac yn unig. Byddai’n well gan lawer o bobl beidio â siarad amdano a'i gadw iddyn nhw eu hunain, weithiau am flynyddoedd.

Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod chi’n ceisio help cyn gynted â phosib fel eich bod chi’n dechrau’r broses o ddygymod â’r hyn sydd wedi digwydd.

Os ydych chi yn y sefyllfa drallodus ac anodd o orfod hysbysu'r heddlu am drais rhywiol fe fyddai'n ddefnyddiol iawn pe byddai rhywun gyda chi, ac os oes rhywun wedi ymosod arnoch chi yna mae'n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i’r heddlu ar unwaith. Mae gan heddluoedd swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig a fydd yn gweithio gyda chi, a gallwch chi gadw mewn cysylltiad â nhw gydol yr ymchwiliadau ac unrhyw erlyn a ddaw yn eu sgïl.

Er y byddwch chi am gael cawod a newid eich dillad ar unwaith, mae’n bwysig nad ydych chi’n gwneud hynny gan y bydd tystiolaeth ynddyn nhw y gall yr heddlu ei chasglu i'w helpu i ddod o hyd i'r ymosodwr a’i erlyn.

Hefyd, fe fydd angen ichi weld meddyg cyn gynted â phosib, a bydd yr heddwas yn helpu i drefnu hyn ar eich rhan.

Mae yna nifer o bobl a sefydliadau sy’n cynnig llawer o help, cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr trais rhywiol, yn eu plith:

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.