Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Dioddefwyr Trosedd » Diogelwch Personol
Yn yr Adran Hon
Diogelwch Personol
Er bod y cyfryngau’n rhoi’r argraff bod ein strydoedd yn dod yn fwyfwy treisgar, isel yw’r tebygrwydd y bydd rhywun yn ymosod arnoch chi yn y trefi, y dinasoedd a chefn gwlad. Fodd bynnag, mae’n hanfodol eich bod chi’n ymwybodol o’r peryglon a’ch bod chi’n cymryd camau rhesymol i amddiffyn eich diogelwch personol. Rhagofalon yw’r canlynol y dylech chi eu hystyried:
Cynlluniwch ymlaen llaw, yn enwedig os ydych chi’n mynd allan am y noson, a dywedwch wrth rywun i ble rydych chi’n mynd a pha bryd rydych chi’n disgwyl bod yn ôl
Os ydych chi’n teithio ar gludiant cyhoeddus, eisteddwch yn agos i bobl eraill neu'r gyrrwr
Archebwch eich tacsi o gwmni ag enw da iddo, a cheisiwch deithio gyda’ch ffrindiau yn hytrach nag ar eich pen eich hun
Ceisiwch beidio ag yfed gormod gan y bydd hyn yn achosi ichi ddod yn llai ymwybodol o unrhyw beryglon
Peidiwch â chyfarfod â phobl nad ydych chi’n eu hadnabod ar eich pen eich hun, a gwnewch yn siwr eich bod yn cyfarfod â phobl rhywle cyhoeddus lle mae yna lawer o bobl o gwmpas
Cadwch yn wyliadwrus a chuddiwch eich eiddo, fel ffonau symudol, pyrsiau ac waledi
Pan fyddwch chi’n cerdded, cadwch at lwybrau troed sydd wedi’u goleuo’n dda
Byddwch yn wyliadwrus, a gwnewch yn siwr eich bod yn edrych ac yn ymddwyn yn hyderus; mae'n llai tebygol y bydd rhywun yn ymosod ar rywun hyderus
Parciwch eich car mewn stryd sydd wedi’i goleuo’n dda
Pan fyddwch chi gartref, gofynnwch i unrhyw un sy'n galw ddangos eu ID, ac os ydych chi'n eu hamau peidiwch â gadael iddyn nhw ddod i mewn i’ch cartref.
Hefyd, meddyliwch am eich ymddygiad eich hun pan fyddwch chi allan; ydych chi’n gwneud unrhyw beth sy’n gwneud i rywun arall deimlo'n nerfus ac yn ofnus?
