Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Mewn Gofal
Yn yr Adran Hon
Weithiau nid yw plant a phobl ifanc yn gallu byw gyda’u rhieni. Gall hyn fod am nifer o wahanol resymau gan gynnwys salwch neu broblemau teuluol.
Os bydd hyn yn digwydd i chi yna bydd y cyngor lleol yn gofalu am eich llety a’ch anghenion addysg, weithiau gallai hyn olygu eich bod yn byw gyda’r hyn a elwir yn deulu maeth. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall pwy sy’n edrych ar eich ôl fod yn drefniant dros dro neu dymor hir. Byddwch yn cael rhywun sy’n helpu i sicrhau eich bod yn cael gofal a elwir yn weithiwr cymdeithasol a dylen nhw roi gwybod i chi am beth sy’n digwydd.
Cyn gynted ag yr ydych yng ngofal y gwasanaethau cymdeithasol, rhaid gwneud cynllun ynghylch sut y byddwch yn derbyn gofal. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel ble rydych chi’n mynd i fyw a pha mor aml y gallwch weld eich rhieni os ydych chi a’ch teulu yn dymuno cadw mewn cysylltiad.
Mae’r ddeddf yn dweud bod yn rhaid i weithwyr cymdeithasol roi sylw i’ch dymuniadau a’ch teimladau. Mae eich syniadau a’ch barn yn bwysig felly mae’n bwysig i chi ddweud beth a ddymunwch pan fo eich gweithiwr cymdeithasol, eich teulu a’r bobl sy’n gofalu amdanoch yn gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Os oes pethau nad ydych yn fodlon gyda nhw, mae’n well siarad â’ch gofalwyr neu eich gweithiwr cymdeithasol a all ddatrys pethau fel arfer. A gallwch bob amser gysylltu â’r Gwasanaeth Eiriolaeth am gymorth.
Mae’r adran hon yn edrych ar sut beth yw bod mewn gofal, y mathau o ofal sydd ar gael a’r cymorth y gallech fod ei angen wrth fod mewn gofal.
Sefydliadau
-
Carelaw
Providing information and guides for young people in care.
-
BBC The Surgery
Information for young people living in care
-
Meic
Information, advice and support for your life. Free. Confidential. For you...Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i dy fywyd. Am ddim. Cyfrinachol. I ti.
-
Citizens Advice Bureau
Advice on going into care and your rights
-
National Youth Advocacy Service
offers advice, information, support and representation to young people in care and leaving care on their rights. Helpline: 0800 616101 (Free phone, Mon-Fri 8am-8pm, Saturdays 10am-4pm)
-
Voice
is part of the national organisation Voice for the Child in Care. If you are unhappy with decisions that have been made about you or whilst you are in care, you can call free to speak to an advocate Tel. 0800 8005792
-
A National Voice
is a charity run by and for young people in and leaving care
