Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Dod o hyd i lety ar rent » Sut i Ddod o Hyd i Lety

  • Os ydych yn chwilio am lety ar rent yn eich ardal leol, mae'n syniad dechrau trwy edrych mewn papurau newydd lleol, ar hysbysfyrddau mewn swyddfeydd post a siopau ac yn y brifysgol neu'r coleg lleol
  • Os ydych yn chwilio am lety i ffwrdd o'ch ardal leol, efallai y byddwch am chwilio ar-lein am fflat neu dy. Gwelwch y lincs isod am gymorth.
  • Hefyd, gallwch ddod o hyd i rywle i fyw gydag asiantaeth gosod. Trwy dalu ffi, bydd asiantaeth gosod yn rhoi cymorth i chi ddod o hyd i lety i weddu i'ch gofynion
  • Caiff eiddo sy'n cael ei hysbysebu trwy asiantaeth gosod ei reoli naill ai gan yr asiantaeth neu gan landlord preifat

Eich cyllideb

  • Pan rydych yn chwilio am rywle i fyw, mae'n bwysig cadw at yr hyn y gallwch ei fforddio. Cyfrifwch gyllideb a byddwch yn realistig o ran faint gallwch ei dalu
  • Cyfrifwch eich incwm a'ch treuliau er mwyn darganfod faint o rent y gallwch fforddio ei dalu. Gwelwch yr adran CYLLIDEBU am ragor o wybodaeth
  • Peidiwch â theimlo bod pwysau arnoch i ddewis eiddo na fedrwch ei fforddio. Os na fedrwch dalu'ch rhent, bydd eich landlord neu'r asiantaeth gosod yn codi tâl ychwanegol arnoch ac ar rai achlysuron cewch eich troi allan o'r eiddo
  • Mae pob asiantaeth gosod yn codi tâl gwahanol ac mae ganddynt wahanol fathau o eiddo gan ddibynnu ar eich anghenion. Cymerwch eich amser i chwilio'n drylwyr
  • Unwaith i chi benderfynu ar eiddo i'w rhentu, bydd angen bond neu flaendal ar yr asiantaeth gosod neu'r landlord. Bydd hwn fel arfer yn bris rhent un mis ac fe ddefnyddir i dalu am unrhyw ddifrod neu drwsio sydd ei angen pan fyddwch yn gadael. Os byddwch yn cadw'r ty'n dwt a thaclus yn ystod y denantiaeth, cewch y bond i gyd yn ôl
  • Os na chawsoch eich bond yn ôl ac rydych yn teimlo bod hynny'n anghyfiawn, cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol am gyngor

Pethau i chwilio amdanynt wrth ddod o hyd i rywle i fyw

  • Mae'n ddefnyddiol ysgrifennu rhestr wirio o'r pethau rydych eu hangen o'ch ty neu'ch fflat:
    • Gwres canolog?
    • Gwydro dwbl?
    • Agos at y coleg / brifysgol a'r siopau lleol?
    • Ar lwybr bws da?
    • Man parcio?
  • Os oes gennych ddiddordeb mewn eiddo, gall yr asiantaeth gosod neu'a r landlord trefnu i chi edrych arno
  • Wrth edrych ar yr eiddo, gwnewch nodyn o'r ardal leol. Ydych chi'n teimlo'n gyfforddus a diogel? Pa fathau o bobl sy'n byw yn yr ardal? Medrwch ymchwilio'r ardal ar-lein am ragor o wybodaeth (gwelwch y lincs isod)
  • Mae dod o hyd i rywle i fyw yn cymryd llawer o amser, felly peidiwch â brysio. Efallai y bydd angen i chi edrych ar lawer o lefydd i fyw cyn i chi ddod o hyd i rywle gweddus, felly ceisiwch beidio â gwneud penderfyniadau ar frys
  • Unwaith i chi benderfynu, fel arfer bydd rhaid i chi roi blaendal neu fond i sicrhau'r eiddo a gwneud yn siwr na fydd unrhyw un arall yn ei gael ef.

Tai'r cyngor

  • Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau eiddo i'w renti am bris rhesymol. Cysylltwch ag adran dai eich cyngor lleol am wybodaeth bellach
  • Gall tai cyngor amrywio o ran safon ac mae'r rhestr aros yn tueddu i fod yn hir, felly gwnewch gais cyn gynted ag y gallwch. Rhoddir blaenoriaeth i grwpiau penodol megis y digartref neu rieni unigol

Cymdeithasau tai

  • Mae cymdeithasau tai yn y rhan fwyaf o lefydd ac maen nhw'n cynnig nifer o wahanol fathau o lety
  • Bydd rhent fel arfer yn rhatach na'r hyn y mae landlordiaid preifat yn ei godi, ond bydd rhaid i chi fodloni meini prawf arbennig i ddod yn denant cymdeithas tai
  • Mae rhai cymdeithasau tai'n cynnig cynlluniau lle'r rydych yn prynu ty gyda nhw. Rydych chi'n talu rhent iddynt, sy'n cyfrannu at forgais
  • Cysylltwch â'r gymdeithas tai perthnasol am ragor o wybodaeth. Yn debyg i dai'r cyngor, gall y rhestrau aros fod yn hir a rhoddir blaenoriaeth i grwpiau arbennig

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.