Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Dod o hyd i lety ar rent » Rhentu

Y pethau i chwilio amdanynt mewn eiddo

  • Pan rydych yn chwilio am rywle i rentu, mae'n syniad da ysgrifennu rhestr wirio o'r pethau rydych yn chwilio amdanynt:
    • Ydy'r ty neu'r fflat mewn cyflwr da? Gwnewch nodyn o unrhyw waith trwsio fydd angen ei wneud a gofynnwch i'ch landlord a yw'n mynd i wneud y gwaith hwn cyn i chi symud mewn
    • A yw'r eiddo'n ddigon cynnes a beth fydd pris ei wresogi?
    • A yw'r eiddo'n ddiogel? A oes rhywun wedi torri i mewn erioed?
    • Oes larwm mwg yn yr adeilad?
    • Pa fath o le yw'r ardal leol?
    • Oes hawl gennych ailaddurno - Dod â'ch dodrefn eich hun neu roi eich lluniau eich hun ar y waliau?
    • A yw'r llety wedi'i ddodrefnu? A fydd rhaid i chi brynu dodrefn ychwanegol?
    • Oes unrhyw gostau eraill?
    • Pa filiau sy'n cael ei gynnwys gyda phris y rhent, os unrhyw beth?
    • Os ydych yn fyfyriwr, mae'n werth chweil gofyn a allwch dalu hanner rhent dros wyliau'r haf os na fyddwch yn byw yno

Cytundebau tenantiaeth a thrwyddedau

  • Os ydych dan 18 blwydd oed, nid oes hawl gyfreithiol gennych rentu eiddo (cael tenantiaeth) ar eich pen eich hun. Fodd bynnag, gallwch lofnodi cytundeb gyda'ch landlord i gael trwydded a fydd yn golygu bod gennych hawl gan y landlord i aros yn yr eiddo - ond nid yw'n hawl gyfreithiol
  • Fel arfer bydd landlordiaid, asiantau gosod, cymdeithasau tai ac adrannau tai awdurdodau lleol yn gofyn am warantwr cyn rhoi trwydded i berson dan 18 oed. Gwarantwr yw person a fydd yn talu'c h rhent os na fedrwch ei dalu. Os ydych chi'n fyfyriwr, eich rhiant neu'ch gwarcheidwad fydd y gwarantwr. Os rydych yn gadael gofal ac yn symud i lety ar rent, gall y gwasanaethau cymdeithasol fod yn warantwr
  • Os ydych yn 18 mlwydd oed neu'n hyn, bydd rhaid i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth i rentu eiddo. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol rhyngoch chi a'r landlord ac ni all y naill berson neu'r llall dorri'r contract
  • Rhaid i chi gael y cytundeb ysgrifenedig hwn oddi wrth eich landlord. Os na chaiff ei greu o fewn 28 ar ôl i chi ofyn amdano, mae'n drosedd ac efallai y bydd rhaid i'ch landlord dalu dirwy. Cysylltwch â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth os oes anawsterau gennych
  • Dylai'r cytundeb tenantiaeth gynnwys y canlynol:
    • enw'r landlord
    • eich enw chi
    • cyfeiriad yr eiddo
    • hyd y denantiaeth (os yw'n denantiaeth gyfnod penodol)
    • dyddiad cychwyn y denantiaeth
    • y math o denantiaeth
    • cyfnod rhybudd
    • pris y rhent
    • pryd gaiff pris y rhent ei gynyddu (os nad yw'n denantiaeth gyfnod penodol)
    • yr hyn sy'n cael ei gynnwys yn y denantiaeth- caiff hwn ei gydio wrth restr gynnwys sy'n nodi dodrefn yr eiddo
    • swm y blaendal / bond a nodyn i ddweud a yw hwn yn ad-daladwy
    • a yw'r rhent yn cynnwys biliau tanwydd a threth dwr
    • eich rôl fel tenant - e.e. cadw'r eiddo mewn cyflwr da, talu'r biliau tanwydd, y drwydded deledu, dim anifeiliaid anwes ac ati
    • rôl y landlord - e.e. cadw'r eiddo'n ddiogel ac mewn cyflwr da
  • Dylai'r cytundeb tenantiaeth nodi unrhyw waith trwsio y mae'r landlord wedi cytuno ei gyflawni hefyd. Mae'n syniad da cwrdd â'ch landlord cyn llofnodi unrhyw beth. Os oes lleithder yn yr eiddo neu waith trwsio i'w gyflawni, gofynnwch i'ch landlord beth ydy e/hi'n mynd i wneud i drin hwn
  • Cyn i chi lofnodi contract, sicrhewch fod yr eiddo mewn cyflwr da, y byddai'n rhad ei wresogi a'r oleuo, bod pris y rhent yn rhesymol ac y gallwch fforddio ei dalu
  • Holwch eich landlord ynglyn â'r cyflenwadau pwer ac a oes rhaid i chi gofnodi eich nwy, trydan neu ddwr gyda chyflenwr. Efallai y bydd rhaid i chi ddarllen y mesuryddion a rhoi gwybod i'ch cyflenwyr. Gwelwch Biliau
  • Dylech wirio a oes gennych yswiriant priodol ar gyfer yr eiddo. Gweler Yswiriant Ty
  • Rhaid i ddyfeisiau nwy'r eiddo gael tystysgrifau cymeradwy a rhaid iddynt gael eu gwirio'n aml gan beiriannydd CORGI. Gofynnwch i'ch landlord a allwch weld y tystysgrifau a sicrhewch fod yr holl ddyfeisiau nwy yn gweithio'n iawn. Os oes rhywbeth yn bod gyda'r dyfeisiau nwy, gall arwain at golli carbon monocsid, a all achosi marwolaeth
  • Rhaid i'ch landlord ddarparu tystysgrif gwiriadau diogelwch o fewn 28 diwrnod o'r gwiriad nwy a rhaid iddo/iddi gael hon cyn i chi symud mewn i'r eiddo
  • Gall diffygion yn yr eiddo olygu fod y landlord yn un gwael, felly gwiriwch fod popeth yn iawn yn yr eiddo cyn llofnodi contract. Os ydych chi'n adnabod unrhyw gyn-dentantiaid, gofynnwch iddynt ynglyn â'u profiad
  • Os oes unrhyw bryderon gennych ynglyn â'r cytundeb tenantiaeth, cysylltwch â'ch canolfan cyngor ar bopeth neu ganolfan cyngor ar dai lleol

Llofnodi

  • Pan fyddwch yn llofnodi am eiddo ar rent bydd rhaid i chi dalu blaendal neu fond. Fel arfer bydd hwn yn bris rhent un mis ac fe ddefnyddir i dalu am unrhyw ddifrod neu drwsio sydd angen ei wneud pan fyddwch yn gadael neu os na fyddwch yn talu'ch rhent . Cadwch dderbynneb am y blaendal a ddylai gael ei ad-dalu pan fyddwch yn symud allan
  • Efallai bydd rhaid i chi dalu mis cyntaf eich rhent ymlaen llaw hefyd
  • Gofynnwch am fanylion cysylltu eich landlord i ddefnyddio mewn argyfwng neu os oes rhywbeth ym mynd o le yn yr eiddo, ond gwiriwch yr amodau galw yn gyntaf. Bydd rhai landlordiaid yn codi ffi arnoch am ddod atoch y tu allan i oriau gwaith pan nad oes argyfwng

Eich Hawliau

  • Fel tenant, mae gennych hawliau penodol yn ôl Deddf Landlord a Thenant 1985 a'r Ddeddf Tai 1988. Dywed y rhain fod rhaid i landlord:
    • Roi hawl i denantiaid fyw heb gael eu poeni neu eu trafferthu gan y landlord
    • Darparu eiddo gweddus i bobl fyw ynddo (h.y. glân a diogel)
    • Cynnal y llefydd cyffredin, strwythur yr adeilad a thu allan i'r adeilad
    • Sicrhau bod gwaith trwsio'n cael ei gyflawni'n iawn
    • Dylunio ac adeiladu'r eiddo i safon benodol
  • Yn eich tro, disgwylir i chi:
    • Dalu'ch rhent mewn pryd
    • Talu treth y cyngor, treth dwr a biliau eraill yr eiddo
    • Cadw'r eiddo'n lân a thaclus
    • Caniatáu i'r landlord ddod mewn i'r eiddo ac edrych arno, cyhyd â'i fod yn rhoi o leiaf 24 awr o rybudd i chi cyn iddo ddod

Prydlesau

  • Mae tri math o brydlesau ar gyfer tenantiaid preifat
    • Tenantiaeth byrddaliad sicr, sy'n golygu bod y landlord yn sicr o gael yr eiddo yn ôl ar ddiwedd cyfnod y brydles
    • Tenantiaeth sicr , lle caiff y denantiaeth ei sicrhau am gyfnod penodol ac fe derfynir trwy orchymyn llys neu os yw'r tenant yn gadael yr eiddo
    • Tenantiaeth reoledig (gwarchodedig) , sy'n cynnig y diogelwch mwyaf yn erbyn codiannau ym mhris rhent neu ddadfeddiant
  • Dan y Ddeddf Tai 1985, mae tenantiaid cyngor neu gymdeithas tai yn cael 'Tenantiaeth Sicr'. Maen nhw wedi'u diogelu'n well rhag codiannau mewn rhent neu ddadfeddiant na thenantiaid preifat a gallant drosglwyddo'r denantiaeth i'w gwr neu'u gwraig neu eu dibynyddion pe fyddent yn marw

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.